Athroniaeth Ubuntu
Mae athroniaeth Ubuntu yn seiliedig ar y syniad o feddalwedd rhydd a dilyffethair, ac yn sail i'r athroniaeth hon mae tri delfryd craidd:
Gwefan Gymraeg am Ubuntu, y fersiwn poblogaidd o Linux.
Mae athroniaeth Ubuntu yn seiliedig ar y syniad o feddalwedd rhydd a dilyffethair, ac yn sail i'r athroniaeth hon mae tri delfryd craidd:
Yn ogystal a diweddaru dy system yn awtomatig yn gyson, mantais arall o ddefnyddio Ubuntu yw bod dosbarthiad newydd o'r system yn cael ei ryddhau bob rhyw chwech mis. Mae hyn yn golygu bod y system yn medru bod yn berthnasol i'r datblygiadau mwyaf diweddar mewn technoleg, ac nad oes rhaid i ti aros am ryw 6 neu 7 mlynedd am fersiwn newydd o'r system weithredu fel gyda Windows. Mae llysenw a rhif gan bob dosbarthiad, a mater hawdd ar y fersiynau diweddar o Ubuntu yw defnyddio System -> Gweinyddiaeth -> Update Manager i uwchraddio i'r dosbarthiad diweddaraf.
Does dim angen i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr Ubuntu wybod dim am eu caledwedd gan bod Ubuntu yn gweithio'n syth o'r bocs. Serch hynny, efallai oherwydd chwilfrydedd, neu oherwydd dy fod eisiau addasu rhywbeth mwy cymhleth, gall fod yn ddefnyddiol ar adegau i gael rhestr wrth law o galedwedd y cyfrifiadur. Mae hyn yn syml iawn i wneud ar Ubuntu.
Rwyt ti eisoes yn gwybod o ddarllen y blog hwn bod Ubuntu yn system ddeniadol ac effeithiol sy'n cynnwys meddalwedd pwerus, felly dyma 5 dadl arall i dy berswadio i ddewis Ubuntu ac nid Windows, neu o leiaf i roi cynnig ar Ubuntu ochr yn ochr a Windows.
Mae'n hawdd iawn i addasu Ubuntu a dewis un o'r miloedd o themau sydd ar gael drwy wefannau fel gnome-looks. Yn yr enghraifft hon byddaf yn gosod thema Mac OSX gyda bar gwaelod sy'n cynnwys lansiwr mawr fel yn y llun isod.
Yr un yw'r broses ar gyfer unrhyw thema neu set o eiconau fyddi di'n dewis gosod ar dy gyfrifiadur.
Mae'r pecyn Ubuntu craidd yn cynnwys y meddalwedd fydd angen arnat i gyflawni tasgau bob dydd ar dy gyfrifiadur. Mae hyn yn cynnwys rhaglen swyddfa lawn OpenOffice, porwr gwe Firefox, rhaglen ebost Evolution, golygydd graffeg The Gimp, gemau amrywiol, geiriaduron, a chwaraewr a llosgwr cd a dvd. Mae'r fersiwn Ubuntu diweddaraf hefyd yn cynnwys ffordd hawdd o lwytho codecs a meddalwedd masnachol fel flash, darllenydd adobe acrobat, java ayb. Mae'r rhan fwyaf o'r pecynnau sy'n rhan o'r dosbarthiad craidd ar gael yn y Gymraeg a ieithoedd eraill.
Mae creu llwybr tarw neu lwybr byr at raglen neu feddalwedd yn debyg yn Ubuntu i systemau gweithredu eraill. Yn yr enghraifft hon byddaf yn creu llwybr byr at raglen porwr gwe Epiphany, ac yn gosod lansiwr ar y bwrdd gwaith ac mewn panel. I ddysgu sut i wneud hyn clicia'r ddolen isod. Mae clicio ar bob bawdlun yn agor llun mwy o faint.
Rhaglen arall ar gyfrifiadur Ubuntu sy'n dy alluogi i lwytho meddalwedd yn hawdd ar y system yw rheolwr pecynnau Synaptic. Mae'n hawdd i'w ddefnyddio, yn rheoli pecynnau dibynnol sydd angen ar y meddalwedd, ac yn dy rybuddio os nad yw rhywbeth yn bosib. Clicia isod i ddarllen gweddill y cofnod. Mae pob bawdlun yn agor llun mwy o glicio arno.
Effeithiau Penbwrdd Beryl ar waith ar system Ubuntu.
Mae'r Cwmni cyfrifiaduron Dell wedi penderfynu gwerthu cyfrifiaduron gyda Ubuntu Linux wedi ei sefydlu'n barod arnyn nhw yn ol cyhoeddiad diweddar gan y BBC. Mae Michael Dell, y person wnaeth sefydlu'r cwmni, eisoes yn defnyddio Ubuntu ac yn ffan mawr. Stori'n llawn ar wefan y BBC. Mae cwmniau eraill eisoes yn gwerthu Ubuntu wedi ei sefydlu'n barod, fel y Linux Emporium sy'n cynnig cyfrifiaduron Lenovo (IBM).
Wedi i ti lwytho Ubuntu a newid iaith y system i'r Gymraeg mae'n bryd newid y cefndir penbwrdd brown yna! Mae dewisiadau gwahanol ar gael o fewn y system ei hun, ond i weld dewis o rai miloedd o ddelweddau cer i wefan gnome-look neu gnome art. Llwytha ddelwedd o dy ddewis a'i chadw mewn man cyfleus. Clicia isod i ddarllen gweddill y cofnod. Mae modd clicio ar bob bawdlun i gael llun mwy.
Mae'r broses o lwytho meddalwedd ar gyfrifiadur Ubuntu yn un hawdd sy'n golygu dau neu dri chlic yn unig. Mae nifer o ffyrdd o wneud hyn. Mae'r enghraifft hon yn defnyddio rhaglen Add/Remove. Clicia isod i ddarllen gweddill y cofnod.
Mae'r broses o lwytho Ubuntu ochr yn ochr a system fel Windows XP neu Vista yn gymharol hawdd. Os oes gen ti ddiddordeb mewn dysgu sut mae gwneud clicia isod i ddarllen darllen gweddill y cofnod hwn. Mae pob bawdlun yn agor llun mwy o faint o glicio arno.
Mae'n hawdd iawn diweddaru dy system ar Ubuntu. Mae rhaglen debyg i Windows Update Manager ar y system, fydd yn dy atgoffa bob hyn a hyn os oes diweddariadau ar gael. Mae modd i ti hefyd ddiweddaru dy system dy hun drwy System -> Gweinyddiaeth -> Update Manager. Clicia isod i ddarllen gweddill y cofnod hwn.
Mae modd cyflawni'r rhan fwyaf o dasgau ar gyfrifiadur sy'n rhedeg Ubuntu drwy'r Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffegol (GUI), neu yn iaith bob dydd, drwy ddefnyddio dewislenni a chlicio ar iconau! Serch hynny, wrth i ti ddod yn fwy cyfarwydd a defnyddio'r system byddi'n canfod ei bod yn haws o lawer weithiau i ddefnyddio llinell orchymyn mewn terfynell. I agor terfynell cer i Rhaglenni > Ategolion > Terfynell. Clicia isod i ddarllen gweddill y cofnod hwn.
Mae'r broses o newid iaith ddiofyn Ubuntu i'r Gymraeg yn hawdd. Yn gyntaf cer i System->Administration->Language Support. Clicia isod i ddarllen gweddill y cofnod hwn.
Ar ol sefydlu Ubuntu rwyt ti'n cyrraedd sgrin fewngofnodi pan fyddi'n dechrau dy gyfrifiadur. O safbwynt diogelwch mae hyn yn beth da, ond gall fod yn niwsans os mai dim ond ti sy'n defnyddio'r cyfrifiadur. Mae'n well gan lawer o bobl fewngofnodi'n awtomatig i'w cyfrifiadur, ac mae modd gwneud hynny'n hawdd iawn yn Ubuntu. Clicia isod i ddarllen gweddill y cofnod hwn.
Os wyt ti am ddechrau addasu dy system i wneud newidiadau i'r cydraniad sgrin, llwytho penbwrdd 3D ayb. y peth cyntaf y dylet ti wneud yw gwneud copi wrth gefn o ffeil bwysig iawn, sef xorg.conf. Rwy'n siarad o brofiad fan hyn! System X.org yw'r meddalwedd sy'n gyrru dy gerdyn fideo ac sy'n sylfaen i'r Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffegol (GUI), felly gwna gopi o'r ffeil bwysig hon yn syth ar ol llwytho Ubuntu fel bod modd i ti adfer y gosodiadau os yw pethau'n mynd o chwith. Clicia isod i ddarllen gweddill y cofnod hwn.
Tagiau