Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Archif: Mehefin 2007

Ysgrifennu i ddisg allanol ntfs

ubuntucymraeg 25/06/2007 @ 11:42

Os wyt ti eisiau defnyddio cof caled allanol ar dy gyfrifiadur Ubuntu, ac yn prynu un wedi fformatio fel ntfs yn hytrach na fat32, bydd angen gwneud y canlynol i sicrhau dy fod yn gallu ysgrifennu i hwn. Yn y gorffennol roedd yn broses gymharol gymhleth, ond erbyn Ubuntu 7.04 mae'n broses hawdd.

Darllen gweddill fy mhost

Logo Ubuntu Cymru

ubuntucymraeg 21/06/2007 @ 22:15
Beth am i rywun sydd ag ychydig mwy o glem na fi i fynd ati greu logo Ubuntu Cymru? Syniad gwreiddiol wrth gyfaill o'r Iwerddon. Cefndir tryloyw fyddai'n dda - ond does dim syniad 'da fi!

Darllen gweddill fy mhost

Cyfieithu Ubuntu 7.10 (Gutsy Gibbon)

ubuntucymraeg 20/06/2007 @ 16:53

Mae modd i ti gyfrannu at gyfieithu'r fersiwn nesaf o Ubuntu. Bydd Ubuntu 7.10 yn cael ei ryddhau ym mis Hydref 2007 (dyna pam mae'n cael ei alw'n 7.10!). Mae'r ffeiliau iaith ar Launchpad fan hyn.

Blogiwr newydd ar Ubuntu Cymraeg

ubuntucymraeg 15/06/2007 @ 13:50

Croeso i flogiwr newydd ar Ubuntu Cymraeg, sef JFW.

Mae JFW wedi symud yn gyfangwbl i ddefnyddio Ubuntu'n ddiweddar, ac yn defnyddio'r system ar gyfer pob math o waith. Bydd ei brofiad o ddefnyddio rhaglenni i drafod deunydd aml-gyfrwng gwahanol yn werthfawr iawn.

Mae croeso i unrhyw un arall sy'n defnyddio Ubuntu flogio ar y safle a rhannu eu profiadau ag eraill. Anfon neges drwy'r ffurflen gysylltu i wneud cais am gyfri.

Rhagair

jfw 15/06/2007 @ 09:49

Cam mawr yw newid o Windows i Ubuntu. Gan fy mod i'n mynd drwy'r broses ar hyn o bryd, bydda i'n 'sgwennu ychydig o adroddiadau yn y fan hyn, er mwyn rhannu profiadau gydag unrhywun sydd â diddordeb.

Yr amcan yw creu system mor ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg) â phosibl, ar gyfer croes-dorriad o ddefnyddwyr: minnau, fy mhartner (Dyw hi ddim yn 'techy'!), a'r bychan 5 oed.

Os bydd y bychan yn trin y system fel mae o'n trin ei degannau, bydd rhaid i'r meddalwell (a'r cyfrifiadur ei hunan) bod yn reit gryf..

Prawf da er mwyn asesu addasrwydd Ubuntu ar gyfer y byd go iawn.

Nelson Mandela yn esbonio ystyr y term Ubuntu

ubuntucymraeg 11/06/2007 @ 18:15


Strwythur cyfeiriaduron a ffolderi yn Ubuntu

ubuntucymraeg 10/06/2007 @ 18:14

Efallai mai un o'r pethau sy'n creu'r penbleth mwyaf i ddefnyddiwr Linux newydd yw strwythur y system, ac yn enwedig yr enwau dieithr. Does dim C: a program files ayb yn Linux, ond mae 'na bethau sy'n swnio'n rhyfedd i ddechrau fel /opt ac /etc. Dyma arweiniad cyflym i strwythur system Ubuntu.

Darllen gweddill fy mhost

Rhedeg gweinydd prawf ar Ubuntu

ubuntucymraeg 06/06/2007 @ 19:05
Os oes gen ti ddiddordeb mewn gwefannau ac eisiau arbrofi wrth adeiladu gwefan, neu eisiau potsian, yna mae'n debyg y bydd angen gweinydd prawf arnat ti. XAMPP

Yn hytrach na thalu cwmni am weinydd byw sy'n agored i bawb, beth am redeg gweinydd Apache, MySql a php (LAMP) ar dy gyfrifiadur dy hun.

Darllen gweddill fy mhost

Brenin y Sêr: cyfweliad gyda Mark Shuttleworth

ubuntucymraeg 04/06/2007 @ 15:14
Mae wedi teithio i'r gofod ar Soyuz TM-34, wedi ffurfio cwmni Thawte Consulting a'i werthu'n ddiweddarach am $500 miliwn, ac wedi cynorthwyo i sefydlu, datblygu a hybu Ubuntu Linux. Mewn cyfweliad diweddar bu Mark Shuttleworth yn trafod ei fywyd, Dell yn gwerthu Ubuntu, a cheisio cael gyrrwyr côd agored wrth werthwyr caledwedd. Dyma grynodeb o'r cyfweliad hwnnw.

Darllen gweddill fy mhost


Amdana i

Open Office Cymraeg

The Gimp



Categorïau

Tagiau

Cynghreirio