Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Archif: Mawrth 2008

Cronfeydd Meddalwedd Ubuntu

ubuntucymraeg 30/03/2008 @ 13:27

Beth yw Cronfeydd Ubuntu

Un term sy'n cael ei ddefnyddio'n gyson ar fforymau ac mewn dogfennaeth Ubuntu yw "repository". Y term Cymraeg am hwn yw cronfa (neu storfa) ac mae'n cyfeirio at y miloedd o raglenni sydd ar gael i sefydlu ar system Ubuntu. Mae'r rhaglenni hyn yn cael eu storio mewn archifau meddalwedd (cronfeydd), ac maen nhw ar gael i sefydlu ar dy system dros y we. Mae hyn yn gwneud sefydlu meddalwedd newydd ar Ubuntu yn hawdd iawn drwy ddefnyddio'r Rheolwr Pecynnau Synaptic neu raglen Add/Remove Ubuntu. Mae hefyd yn ddiogel iawn gan fod y rhaglenni wedi cael eu profi'n drylwyr ar gyfer Ubuntu.

4 Math o gronfa

Mae cronfeydd meddalwedd Ubuntu wedi eu rhannu'n bedwar rhan, yn seiliedig ar faint o gefnogaeth sydd ar gael i'r meddalwedd, ac ydy'r meddalwedd yn cydymffurfio ag Athroniaeth Meddalwedd Rhydd Ubuntu. Y pedair cronfa yw:

Prif (Main) - meddalwedd sy'n derbyn cefnogaeth swyddogol gan Ubuntu
Cyfyngedig (Restricted) - meddalwedd sy'n cael ei gefnogi ond sydd ddim ar gael dan drwydded gwbwl rydd
Hollfyd (Universe) - sy'n cael ei gynnal gan y gymuned, hynny yw ddim yn derbyn cefnogaeth swyddogol
Amlfyd (Multiverse) - meddalwedd nad yw'n rhydd yn yr ystyr nad yw'n cyfateb i bolisi trwyddedu Ubuntu

Mae mwy o fanylion am y pedair math o gronfa ar gael ar wefan Ubuntu.

Defnyddio Cronfeydd Ubuntu

Mae pa feddalwedd sydd ar gael i lwytho ar dy gyfrifiadur Ubuntu di yn dibynnu'n gyfangwbwl ar ba gronfeydd rwyt ti wedi eu galluogi. Drwy fynd i System -> Gweinyddiaeth -> Software Sources gallu di weld beth sydd wedi ei alluogi ar dy system, ac ychwanegu cronfeydd eraill.

Fel y gweli o'r llun, mae'r cyfan wedi eu galluogi ar y cyfrifiadur hwn.

Mae'n llawer gwell llwytho meddalwedd drwy'r cronfeydd na llwytho pecyn lawr a'i sefydlu, gan dy fod yn derbyn diweddariadau cyson i'r meddalwedd drwy'r rheolwr diweddariadau.

Mae modd hefyd ychwanegu cronfa unigol ar gyfer meddalwedd penodol, ond testun ar gyfer postiad arall yw hwnnw.

Mac v Vista v Ubuntu: cystadleuaeth hacio

ubuntucymraeg 30/03/2008 @ 12:30

Mewn cystadleuaeth hacio ddiweddar llwyddwyd i hacio Mac Afal a chyfrifiadur Windows Vista, ond methwyd canfod bwlch yn nioglewch cyfrifiadur Ubuntu.

Y Mac aeth gyntaf, wedyn y cyfrifiadur Vista, ac ar ddiwedd y tri diwrnod roedd y cyfrifiadur Ubuntu yn dal heb ei hacio.

Stori'n llawn: Fforwm Ubuntu   PC World

Defnyddio Mencoder i newid fformat ffeil

ubuntucymraeg 29/03/2008 @ 19:06

Mae llawer o raglenni Linux yn creu a defnyddio ffeiliau fideo yn fformat ogg. Os wyt ti eisiau newid ffeil fideo o fformat ogg i fformat avi ar gyfer ei llwytho i youtube er enghraifft, mae modd gwneud hyn yn hawdd gyda Mencoder. I ddechrau gwna'n siwr bod mencoder wedi ei sefydlu ar dy system drwy agor y Rheolwr Pecynnau Synaptic, ac os nag yw yno chwilia amdano a'i lwytho.

Wedyn agor terfynell a theipio'r canlynol iddo:

mencoder ffeilfideo.ogg -o ffeilfideo.avi -oac mp3lame -ovc lavc

* ffeilfideo.ogg yw'r ffeil .ogg rwyt ti eisiau trosi
* ffeilfideo.avi yw'r ffeil .avi fydd yn cael ei chreu
* mp3lame yw'r codec sain (mp3 yn yr achos hwn)
* lavc yw'r codec fideo (libavcodec yn yr achos hwn)

A dyna ni - bydd ffeil .avi newydd yn dy gyfeiriadur cartref.

Y cyfarwyddiadau hyn ar ffurf fideo.

Y cyfarwyddiadau hyn ar YouTube.

Ubuntu 8.04 Beta

ubuntucymraeg 24/03/2008 @ 13:08

Newydd uwchraddio i Ubuntu 8.04 Beta Hardy Heron (Crychydd Cadarn!). Bydd y fersiwn derfynnol ar gael ar Ebrill 24, a bydd yn un LTS - sef cefnogaeth tymor hir.

Mae 8.04 yn cynnwys nifer o bethau newydd i'r defnyddiwr, ac mae rhestr a disgrifiad o'r rhain ar gael ar wefan Ubuntu.

Gan mai fersiwn Beta o'r system weithredu yw'r un sydd ar gael ar hyn o bryd roeddwn yn disgwyl problemau mawr, ac eisiau cyfrannu at geisio adrodd unrhyw chwilod posib, yn enwedig gan mod i ar system amd 64-bit.

Serch hynny un broblem wnes i ei chanfod a llwyddwyd i ddatrys hon ar ôl ychydig o chwarae, a nawr mae'n gweithio'n wych.

Os nag wyt ti eisiau cyfrannu at ddatrys problemau mae'n werth aros tan i'r fersiwn orffenedig gael ei rhyddhau ar Ebrill 24 2008, ond wedi hynny mae'n bendant yn werth uwchraddio.

Conky ar Ubuntu!

ubuntucymraeg 06/03/2008 @ 23:58

Rhaglen fach syml a difyr yw rhaglen Conky sy'n helpu i gadw llygad ar dy system a gweld beth sy'n gwneud beth. Clicia ar y bawdlun i gael gweld hwn ar waith, a darllen mwy os wyt am wybod sut i lwytho hwn yn Ubuntu.

Conky ar waith

Darllen gweddill fy mhost


Amdana i

Open Office Cymraeg

The Gimp



Categorïau

Tagiau

Cynghreirio