Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Archif: Ebrill 2008

Rhyddhau Ubuntu 8.04

ubuntucymraeg 24/04/2008 @ 12:32

Mae'r fersiwn newydd hir ddisgwyliedig o Ubuntu, sef y crychydd cadarn (Hardy Heron) neu Ubuntu 8.04 wedi ei ryddhau'n swyddogol heddiw ar Ebrill 24 2008.

Bydd hwn yn fersiwn cefnogaeth tymor hir (LTS ), a bydd y fersiwn penbwrdd yn derbyn cefngaeth tan Ebrill 2001, a'r fersiwn gweinydd tan Ebrill 2013.

Llwytho Ubuntu 8.04  | CDs am ddim o Shipit | Prynu Ubuntu ar CD neu DVD

Defnyddio RecordMyDesktop

ubuntucymraeg 06/04/2008 @ 13:08

Rhaglen fach ddefnyddiol sydd yn y cronfeydd meddalwedd yn Ubuntu yw rhaglen Record My Desktop. Defnyddia'r Rheolwr Pecynnau Synaptic i lwytho'r rhaglen a'r rheolwr graffegol.

Wedyn cer i Rhaglenni-> Sain a Fideo -> gtk-recordMYDesktop i gychwyn recordio'r hyn sy'n digwydd ar y penbwrdd. Mae modd i ti ddewis recordio ffenest neu'r sgrin gyfan.

Wedi i ti orffen gallu di atal y recordiad drwy glicio ar y botwm sgwar yn y bar top.

Bydd ffeil o'r enw out.ogg yn ymddangos yn dy blygell cartref a gallu di chwarae neu olygu hon, neu ddefnyddio Mencoder i'w throsi ar gyfer ei llwytho ar YouTube.


Gweld Record My Desktop ar waith gyda gwefan gwyddbwyll.com ar YouTube. Wrth reswm bydd safon y ffeil fideo sydd gen ti ar dy gyfrifiadur yn llawer gwell na'r ffeil sydd wedi ei throsi ar gyfer YouTube.

Open Office 2.4

ubuntucymraeg 03/04/2008 @ 21:07

Mae'r fersiwn newydd o Open Office (Cymraeg) Debian ac Ubuntu yn barod i lwytho yn y cronfeydd meddalwedd ar gyfer Ubuntu 8.04.

Er mwyn sicrhau bod y fersiwn Gymraeg ar dy system gwna'n siwr bod pecyn openoffice.org-|10n-cy wedi ei lwytho yn y Rheolwr Pecynnau Synaptic

Gwybodaeth bellach: Gwefan Gymraeg Open Office


Amdana i

Open Office Cymraeg

The Gimp



Categorïau

Tagiau

Cynghreirio