Addasu Dewislenni yn Ubuntu
Mae tair prif ddewislen ar Fwrdd Gwaith cyfrifiadur Ubuntu, sef Rhaglenni, Mannau a System, ac mae modd newid cynnwys y cyntaf a'r olaf o'r rhain.
Gwefan Gymraeg am Ubuntu, y fersiwn poblogaidd o Linux.
Mae tair prif ddewislen ar Fwrdd Gwaith cyfrifiadur Ubuntu, sef Rhaglenni, Mannau a System, ac mae modd newid cynnwys y cyntaf a'r olaf o'r rhain.
Mae llwytho eiconau rhaglenni ar Fwrdd Gwaith Ubuntu yn hawdd. Yr unig beth sydd angen gwneud yw mynd at y ddewislen, cael gafael yn y rhaglen, a gyda chlic dde dewis Ychwanegu'r lansiwr yna at y bwrdd gwaith.
Mae'r broses ychydig yn wahanol os am roi eiconau'r system ar y Bwrdd Gwaith - pethau fel bin sbwriel, cyfeiriadur cartref ayb.
Beth yw Cronfeydd Ubuntu
Un term sy'n cael ei ddefnyddio'n gyson ar fforymau ac mewn dogfennaeth Ubuntu yw "repository". Y term Cymraeg am hwn yw cronfa (neu storfa) ac mae'n cyfeirio at y miloedd o raglenni sydd ar gael i sefydlu ar system Ubuntu. Mae'r rhaglenni hyn yn cael eu storio mewn archifau meddalwedd (cronfeydd), ac maen nhw ar gael i sefydlu ar dy system dros y we. Mae hyn yn gwneud sefydlu meddalwedd newydd ar Ubuntu yn hawdd iawn drwy ddefnyddio'r Rheolwr Pecynnau Synaptic neu raglen Add/Remove Ubuntu. Mae hefyd yn ddiogel iawn gan fod y rhaglenni wedi cael eu profi'n drylwyr ar gyfer Ubuntu.
4 Math o gronfa
Mae cronfeydd meddalwedd Ubuntu wedi eu rhannu'n bedwar rhan, yn seiliedig ar faint o gefnogaeth sydd ar gael i'r meddalwedd, ac ydy'r meddalwedd yn cydymffurfio ag Athroniaeth Meddalwedd Rhydd Ubuntu. Y pedair cronfa yw:
Prif (Main) - meddalwedd sy'n derbyn cefnogaeth swyddogol gan Ubuntu
Cyfyngedig (Restricted) - meddalwedd sy'n cael ei gefnogi ond sydd ddim ar gael dan drwydded gwbwl rydd
Hollfyd (Universe) - sy'n cael ei gynnal gan y gymuned, hynny yw ddim yn derbyn cefnogaeth swyddogol
Amlfyd (Multiverse) - meddalwedd nad yw'n rhydd yn yr ystyr nad yw'n cyfateb i bolisi trwyddedu Ubuntu
Mae mwy o fanylion am y pedair math o gronfa ar gael ar wefan Ubuntu.
Defnyddio Cronfeydd Ubuntu
Mae pa feddalwedd sydd ar gael i lwytho ar dy gyfrifiadur Ubuntu di yn dibynnu'n gyfangwbwl ar ba gronfeydd rwyt ti wedi eu galluogi. Drwy fynd i System -> Gweinyddiaeth -> Software Sources gallu di weld beth sydd wedi ei alluogi ar dy system, ac ychwanegu cronfeydd eraill.

Fel y gweli o'r llun, mae'r cyfan wedi eu galluogi ar y cyfrifiadur hwn.

Mae'n llawer gwell llwytho meddalwedd drwy'r cronfeydd na llwytho pecyn lawr a'i sefydlu, gan dy fod yn derbyn diweddariadau cyson i'r meddalwedd drwy'r rheolwr diweddariadau.
Mae modd hefyd ychwanegu cronfa unigol ar gyfer meddalwedd penodol, ond testun ar gyfer postiad arall yw hwnnw.
Mae'r busnes newid i Ubuntu wedi achosi i mi drio gwneud rhywbeth gyda'r hen gyfrifiaduron sy wedi bod yn eistedd yn y cwt ers blynyddoedd.
Mae gen i hen gliniadur (Toshiba Satellite Pro CDT 450 133MHz gyda 32Mb o RAM), a hen focs ahysbys (700MHz gyda 128Mb o RAM). Dim digon o nerth gan y ddau i redeg Ubuntu.
Ar ôl tipyn o ymchwil ar y We, mi ddes i o hyd i Damn Small Linux. Mae'n reit hawdd i'w osod, ac mae'r cyfrifiaduron yn gweithio'n ffein. Mae 'na ddigon ohonyn nhw yn y tŷ rwan ar gyfer pob aelod o'r teulu a'r gath hefyd.
Y cam nesa' yw sefydlu rhwydwaith...
Croeso i flogiwr newydd ar Ubuntu Cymraeg, sef JFW.
Mae JFW wedi symud yn gyfangwbl i ddefnyddio Ubuntu'n ddiweddar, ac yn defnyddio'r system ar gyfer pob math o waith. Bydd ei brofiad o ddefnyddio rhaglenni i drafod deunydd aml-gyfrwng gwahanol yn werthfawr iawn.
Mae croeso i unrhyw un arall sy'n defnyddio Ubuntu flogio ar y safle a rhannu eu profiadau ag eraill. Anfon neges drwy'r ffurflen gysylltu i wneud cais am gyfri.
Cam mawr yw newid o Windows i Ubuntu. Gan fy mod i'n mynd drwy'r broses ar hyn o bryd, bydda i'n 'sgwennu ychydig o adroddiadau yn y fan hyn, er mwyn rhannu profiadau gydag unrhywun sydd â diddordeb.
Yr amcan yw creu system mor ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg) â phosibl, ar gyfer croes-dorriad o ddefnyddwyr: minnau, fy mhartner (Dyw hi ddim yn 'techy'!), a'r bychan 5 oed.
Os bydd y bychan yn trin y system fel mae o'n trin ei degannau, bydd rhaid i'r meddalwell (a'r cyfrifiadur ei hunan) bod yn reit gryf..
Prawf da er mwyn asesu addasrwydd Ubuntu ar gyfer y byd go iawn.
![]() |
Mae wedi teithio i'r gofod ar Soyuz TM-34, wedi ffurfio cwmni Thawte Consulting a'i werthu'n ddiweddarach am $500 miliwn, ac wedi cynorthwyo i sefydlu, datblygu a hybu Ubuntu Linux. Mewn cyfweliad diweddar bu Mark Shuttleworth yn trafod ei fywyd, Dell yn gwerthu Ubuntu, a cheisio cael gyrrwyr côd agored wrth werthwyr caledwedd. Dyma grynodeb o'r cyfweliad hwnnw. |
Rhaglen arall ar gyfrifiadur Ubuntu sy'n dy alluogi i lwytho meddalwedd yn hawdd ar y system yw rheolwr pecynnau Synaptic. Mae'n hawdd i'w ddefnyddio, yn rheoli pecynnau dibynnol sydd angen ar y meddalwedd, ac yn dy rybuddio os nad yw rhywbeth yn bosib. Clicia isod i ddarllen gweddill y cofnod. Mae pob bawdlun yn agor llun mwy o glicio arno.
Wedi i ti lwytho Ubuntu a newid iaith y system i'r Gymraeg mae'n bryd newid y cefndir penbwrdd brown yna! Mae dewisiadau gwahanol ar gael o fewn y system ei hun, ond i weld dewis o rai miloedd o ddelweddau cer i wefan gnome-look neu gnome art. Llwytha ddelwedd o dy ddewis a'i chadw mewn man cyfleus. Clicia isod i ddarllen gweddill y cofnod. Mae modd clicio ar bob bawdlun i gael llun mwy.
Mae'r broses o lwytho meddalwedd ar gyfrifiadur Ubuntu yn un hawdd sy'n golygu dau neu dri chlic yn unig. Mae nifer o ffyrdd o wneud hyn. Mae'r enghraifft hon yn defnyddio rhaglen Add/Remove. Clicia isod i ddarllen gweddill y cofnod.
Tagiau