Newid Thema
Os wyt ti wedi blino edrych ar yr un hen sgrin beth am fynd ati i newid thema, eiconau a chefndir penbwrdd i rywbeth ychydig yn fwy cyffrous a deniadol. Mae'n broses hawdd iawn yn Ubuntu o ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.
Gwefan Gymraeg am Ubuntu, y fersiwn poblogaidd o Linux.
Os wyt ti wedi blino edrych ar yr un hen sgrin beth am fynd ati i newid thema, eiconau a chefndir penbwrdd i rywbeth ychydig yn fwy cyffrous a deniadol. Mae'n broses hawdd iawn yn Ubuntu o ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.
Mae'r fersiwn newydd hir ddisgwyliedig o Ubuntu, sef y crychydd cadarn (Hardy Heron) neu Ubuntu 8.04 wedi ei ryddhau'n swyddogol heddiw ar Ebrill 24 2008.
Bydd hwn yn fersiwn cefnogaeth tymor hir (LTS ), a bydd y fersiwn penbwrdd yn derbyn cefngaeth tan Ebrill 2001, a'r fersiwn gweinydd tan Ebrill 2013.
Llwytho Ubuntu 8.04 | CDs am ddim o Shipit | Prynu Ubuntu ar CD neu DVD
Beth yw Cronfeydd Ubuntu
Un term sy'n cael ei ddefnyddio'n gyson ar fforymau ac mewn dogfennaeth Ubuntu yw "repository". Y term Cymraeg am hwn yw cronfa (neu storfa) ac mae'n cyfeirio at y miloedd o raglenni sydd ar gael i sefydlu ar system Ubuntu. Mae'r rhaglenni hyn yn cael eu storio mewn archifau meddalwedd (cronfeydd), ac maen nhw ar gael i sefydlu ar dy system dros y we. Mae hyn yn gwneud sefydlu meddalwedd newydd ar Ubuntu yn hawdd iawn drwy ddefnyddio'r Rheolwr Pecynnau Synaptic neu raglen Add/Remove Ubuntu. Mae hefyd yn ddiogel iawn gan fod y rhaglenni wedi cael eu profi'n drylwyr ar gyfer Ubuntu.
4 Math o gronfa
Mae cronfeydd meddalwedd Ubuntu wedi eu rhannu'n bedwar rhan, yn seiliedig ar faint o gefnogaeth sydd ar gael i'r meddalwedd, ac ydy'r meddalwedd yn cydymffurfio ag Athroniaeth Meddalwedd Rhydd Ubuntu. Y pedair cronfa yw:
Prif (Main) - meddalwedd sy'n derbyn cefnogaeth swyddogol gan Ubuntu
Cyfyngedig (Restricted) - meddalwedd sy'n cael ei gefnogi ond sydd ddim ar gael dan drwydded gwbwl rydd
Hollfyd (Universe) - sy'n cael ei gynnal gan y gymuned, hynny yw ddim yn derbyn cefnogaeth swyddogol
Amlfyd (Multiverse) - meddalwedd nad yw'n rhydd yn yr ystyr nad yw'n cyfateb i bolisi trwyddedu Ubuntu
Mae mwy o fanylion am y pedair math o gronfa ar gael ar wefan Ubuntu.
Defnyddio Cronfeydd Ubuntu
Mae pa feddalwedd sydd ar gael i lwytho ar dy gyfrifiadur Ubuntu di yn dibynnu'n gyfangwbwl ar ba gronfeydd rwyt ti wedi eu galluogi. Drwy fynd i System -> Gweinyddiaeth -> Software Sources gallu di weld beth sydd wedi ei alluogi ar dy system, ac ychwanegu cronfeydd eraill.

Fel y gweli o'r llun, mae'r cyfan wedi eu galluogi ar y cyfrifiadur hwn.

Mae'n llawer gwell llwytho meddalwedd drwy'r cronfeydd na llwytho pecyn lawr a'i sefydlu, gan dy fod yn derbyn diweddariadau cyson i'r meddalwedd drwy'r rheolwr diweddariadau.
Mae modd hefyd ychwanegu cronfa unigol ar gyfer meddalwedd penodol, ond testun ar gyfer postiad arall yw hwnnw.
Mewn cystadleuaeth hacio ddiweddar llwyddwyd i hacio Mac Afal a chyfrifiadur Windows Vista, ond methwyd canfod bwlch yn nioglewch cyfrifiadur Ubuntu.
Y Mac aeth gyntaf, wedyn y cyfrifiadur Vista, ac ar ddiwedd y tri diwrnod roedd y cyfrifiadur Ubuntu yn dal heb ei hacio.
Stori'n llawn: Fforwm Ubuntu PC World
Newydd uwchraddio i Ubuntu 8.04 Beta Hardy Heron (Crychydd Cadarn!). Bydd y fersiwn derfynnol ar gael ar Ebrill 24, a bydd yn un LTS - sef cefnogaeth tymor hir.
Mae 8.04 yn cynnwys nifer o bethau newydd i'r defnyddiwr, ac mae rhestr a disgrifiad o'r rhain ar gael ar wefan Ubuntu.
Gan mai fersiwn Beta o'r system weithredu yw'r un sydd ar gael ar hyn o bryd roeddwn yn disgwyl problemau mawr, ac eisiau cyfrannu at geisio adrodd unrhyw chwilod posib, yn enwedig gan mod i ar system amd 64-bit.
Serch hynny un broblem wnes i ei chanfod a llwyddwyd i ddatrys hon ar ôl ychydig o chwarae, a nawr mae'n gweithio'n wych.
Os nag wyt ti eisiau cyfrannu at ddatrys problemau mae'n werth aros tan i'r fersiwn orffenedig gael ei rhyddhau ar Ebrill 24 2008, ond wedi hynny mae'n bendant yn werth uwchraddio.
Rhaglen fach syml a difyr yw rhaglen Conky sy'n helpu i gadw llygad ar dy system a gweld beth sy'n gwneud beth. Clicia ar y bawdlun i gael gweld hwn ar waith, a darllen mwy os wyt am wybod sut i lwytho hwn yn Ubuntu.
Mae'r busnes newid i Ubuntu wedi achosi i mi drio gwneud rhywbeth gyda'r hen gyfrifiaduron sy wedi bod yn eistedd yn y cwt ers blynyddoedd.
Mae gen i hen gliniadur (Toshiba Satellite Pro CDT 450 133MHz gyda 32Mb o RAM), a hen focs ahysbys (700MHz gyda 128Mb o RAM). Dim digon o nerth gan y ddau i redeg Ubuntu.
Ar ôl tipyn o ymchwil ar y We, mi ddes i o hyd i Damn Small Linux. Mae'n reit hawdd i'w osod, ac mae'r cyfrifiaduron yn gweithio'n ffein. Mae 'na ddigon ohonyn nhw yn y tŷ rwan ar gyfer pob aelod o'r teulu a'r gath hefyd.
Y cam nesa' yw sefydlu rhwydwaith...
Os wyt ti eisiau defnyddio cof caled allanol ar dy gyfrifiadur Ubuntu, ac yn prynu un wedi fformatio fel ntfs yn hytrach na fat32, bydd angen gwneud y canlynol i sicrhau dy fod yn gallu ysgrifennu i hwn. Yn y gorffennol roedd yn broses gymharol gymhleth, ond erbyn Ubuntu 7.04 mae'n broses hawdd.

Mae modd i ti gyfrannu at gyfieithu'r fersiwn nesaf o Ubuntu. Bydd Ubuntu 7.10 yn cael ei ryddhau ym mis Hydref 2007 (dyna pam mae'n cael ei alw'n 7.10!). Mae'r ffeiliau iaith ar Launchpad fan hyn.
Tagiau