Envy a gyrrwyr cerdyn graffeg
ubuntucymraeg @ 18:03
Un o'r peth cyntaf mae llawer o ddefnyddwyr Ubuntu yn gwneud yw llwytho gyrrwyr y cwmni masnachol ar gyfer cerdyn graffeg. Dyw Ubuntu ddim yn dosbarthu rhain fel rhan o'r pecyn, ond maen nhw'n hawdd i'w llwytho drwy ddefnyddio rhaglen Envy. Mae llwytho gyrrwyr prif gardiau cwmniau NVIDIA ac ATI yn hawdd gyda'r meddalwedd hwn. Mae Ubuntu 7.04 yn cynnwys rhaglen i wneud hyn drosot ti, heb yr angen i ti lwytho Envy. Cer i System -> Gweinyddiaeth -> Restricted Drivers Manager.
Tagiau: Envy ATI NVIDIA Ubuntu Cymraeg
digg it |
del.icio.us






Dim sylwadau hyd yma. »
Ymateb: