Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Gwneud copi wrth gefn o ffeil xorg.conf

ubuntucymraeg @ 16:02

Os wyt ti am ddechrau addasu dy system i wneud newidiadau i'r cydraniad sgrin, llwytho penbwrdd 3D ayb. y peth cyntaf y dylet ti wneud yw gwneud copi wrth gefn o ffeil bwysig iawn, sef xorg.conf. Rwy'n siarad o brofiad fan hyn! System X.org yw'r meddalwedd sy'n gyrru dy gerdyn fideo ac sy'n sylfaen i'r Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffegol (GUI), felly gwna gopi o'r ffeil bwysig hon yn syth ar ol llwytho Ubuntu fel bod modd i ti adfer y gosodiadau os yw pethau'n mynd o chwith. Clicia isod i ddarllen gweddill y cofnod hwn.

I wneud copi ohoni agor terfynell a theipia'r llinell isod, gan deipio dy gyfrinair pan fydd y system yn gofyn amdano.

sudo cp /etc/X11/xorg.conf /etc/X11/xorg.conf.copi

O bori ffolder /etc/X11 fe weli di ffeil newydd o'r enw xorg.conf.copi, a gallu di newid dy ffeil xorg.conf yn hyderus o wybod bod gen ti gopi wrth gefn ohoni.

Os yw pethau'n mynd yn draed moch arnat, a bod gofyn i ti adfer dy gopi gwreiddiol o'r ffeil teipia'r canlynol mewn terfynell.

sudo cp /etc/X11/xorg.conf.copi /etc/X11/xorg.conf

Os wyt ti wedi gwneud smonach iawn o bethau ac yn methu hyd yn oed mewngofnodi i sesiwn X neu Gnome mae modd i ti ddefnyddio Ctrl + Alt + Ol-fysell (Backspace), mewngofnodi drwy deipio dy enw a chyfrinair, a wedyn teipio'r gorchymyn uchod. Mae Ctrl + Alt + Ol-fysell hefyd yn ailgychwyn sesiwn X os wyt ti yn Gnome.

Tagiau:
digg it | del.icio.us

Dim sylwadau hyd yma. »

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>


Amdana i

Open Office Cymraeg

The Gimp



Categorïau

Tagiau

Cynghreirio