Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Mewngofnodi'n awtomatig

ubuntucymraeg @ 20:42

Ar ol sefydlu Ubuntu rwyt ti'n cyrraedd sgrin fewngofnodi pan fyddi'n dechrau dy gyfrifiadur. O safbwynt diogelwch mae hyn yn beth da, ond gall fod yn niwsans os mai dim ond ti sy'n defnyddio'r cyfrifiadur. Mae'n well gan lawer o bobl fewngofnodi'n awtomatig i'w cyfrifiadur, ac mae modd gwneud hynny'n hawdd iawn yn Ubuntu. Clicia isod i ddarllen gweddill y cofnod hwn.

Mewngofnodi'n awtomatig

Cer i System -> Gweinyddiaeth -> Ffenestr Mewngofnodi. Ar ol cyflwyno dy gyfrinair fe ddei di at ffenest Hoffterau Mewngofnodi gyda 5 tab. Dewis y tab Diogelwch a chlicia Galluogi Mewngofnodi Awtomatig, a dewis pa ddefnyddiwr sydd i fod i wneud hyn.

Tagiau:
digg it | del.icio.us

Dim sylwadau hyd yma. »

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>


Amdana i

Open Office Cymraeg

The Gimp



Categorïau

Tagiau

Cynghreirio