Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Defnyddio Terfynell (1)

ubuntucymraeg @ 21:17

Mae modd cyflawni'r rhan fwyaf o dasgau ar gyfrifiadur sy'n rhedeg Ubuntu drwy'r Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffegol (GUI), neu yn iaith bob dydd, drwy ddefnyddio dewislenni a chlicio ar iconau! Serch hynny, wrth i ti ddod yn fwy cyfarwydd a defnyddio'r system byddi'n canfod ei bod yn haws o lawer weithiau i ddefnyddio llinell orchymyn mewn terfynell. I agor terfynell cer i Rhaglenni > Ategolion > Terfynell. Clicia isod i ddarllen gweddill y cofnod hwn.

Bydd rhywbeth tebyg i'r sgrin hon yn ymddangos.

I esbonio ychydig

  • enw defnyddiwr (owen yn y llun)
  • enw'r cyfrifiadur (owen -desktop yn yr achos hwn)
  • y symbol $ yn dangos dy fod wedi mewngofnodi fel defnyddiwr cyffredin. Petaet yn mewngofnodi gyda chyfri gwraidd y periant byddai'r symbol # yn ymddangos yn lle $. Mae'n beryglus i ddefnyddio'r cyfri gwraidd gan bod modd i ti newid (a chawlio) dy system yn gyfangwbl.

Mae gwefannau sy'n cynnwys cyfarwyddiadau am sut i gyflawni rhywbeth ar Ubuntu yn cynnig testun i ti fel yr un isod. Yr unig beth sy'n rhaid i ti wneud yw copio hwn, gludo mewn terfynell, a phwyso Enter. Dyma enghraifft:

$ gedit /etc/X11/xorg.conf

Gyda llinell fel hyn rhaid i ti gopio'r darn gedit /etc/X11/xorg.conf, gludo hwn mewn terfynell, a phwyso Enter. Bydd golygydd testun gedit yn agor ffeil o'r enw xorg.conf.

Beth am ddefnyddio gorchymyn ls. Mae ls yn raglen fechan sy'n hoffi rhestru pethau, felly os wneid di deipio ls fe gei di restr o ffeiliau yn y cyfeiriadur rwyt ti ynddo ar hyn o bryd.

Dyma enghraifft arall o ddefnyddio terfynell i gael gwybodaeth am y system a'r cerdyn graffeg, gyda'r allbwn wrth y system:

glxinfo | grep direct

fglrxinfo

Mae hyd yn oed yn haws ar adegau i lwytho meddalwedd drwy'r system hon, er enghraifft
sudo apt-get install automatix
i lwytho rhaglen automatix.

Mae fforymau sy'n cynnig cefnogaeth i ddefnyddwyr Ubuntu yn cynnwys y cod i roi yn y llinell orchymyn, a dim ond copio a gludo hwn fydd yn rhaid i ti wneud.

Tagiau:
digg it | del.icio.us

Dim sylwadau hyd yma. »

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>


Amdana i

Open Office Cymraeg

The Gimp



Categorïau

Tagiau

Cynghreirio