Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Llwytho Ubuntu ar gyfrifiadur Windows - Bwt Deuol (dual boot)

ubuntucymraeg @ 12:27

Mae'r broses o lwytho Ubuntu ochr yn ochr a system fel Windows XP neu Vista yn gymharol hawdd. Os oes gen ti ddiddordeb mewn dysgu sut mae gwneud clicia isod i ddarllen darllen gweddill y cofnod hwn. Mae pob bawdlun yn agor llun mwy o faint o glicio arno.

Paratoi dy system
Cyn dechrau meddwl am sefydlu Ubuntu mae'n werth gwneud un neu ddau beth i dy system Windows yn gyntaf;

  • Gwna gopi wrth gefn o ffeiliau pwysig, a chopi wrth gefn o'r system gyfan os yn bosib
  • Rheda'r cyfannwr disg fwy nag unwaith i gywasgu gwybodaeth ar dy system bresennol
  • Casgla wybodaeth am dy system - o'r panel rheoli (System) yn Windows, a gwybodaeth am dy gysylltiad gwe, a chadw rhain wrth law

Cael gafael yn Ubuntu
Cer i dudalen llwytho Ubuntu ar wefan Ubuntu i lwytho'r system i dy gyfrifiadur neu i archebu copi ar cd. Mae dewis ar y dudalen hon, ond onibai bod gen ti reswm penodol dros ddewis un o'r lleill llwytha Ubuntu 7.04 (Feisty Fawn). Mae dewis hefyd o ran y math gyfrifiadur sydd gen ti. Os nag wyt ti'n siwr dewis yr un diofyn (x86), neu os wyt ti'n siwr dy fod am fersiwn 64 bit newid i hwnnw.

Byddwn yn argymell darllen hwn os wyt ti'n bwriadu mynd am y fersiwn x64. Mae pecyn Ubuntu yn 700mb felly'n mae'n amser gwneud paned neu ddau.

Llosgi i CD
Ar ol i ti lwytho Ubuntu mae'n bryd ei losgi i CD. Mae llosgwyr cd safonol fel Nero a Roxio fel arfer yn cynnwys opsiwn "burn cd image", a hwn fydd angen ei ddewis i losgi Ubuntu i CD. Os nag oes gen ti raglen safonol llwytha ImgBurn yn rhad ac am ddim a defnyddio hwnnw.

Sefydlu Ubuntu
Diffodd y cyfrifiadur, agor dy ddror cd, rho'r cd Ubuntu i mewn, a bwtio o hwnnw. Dewis yr opsiwn cyntaf i lwytho'r cd byw.

Wedi i ti lwytho'r cd byw bydd opsiwn i lwytho Ubuntu ar y penbwrdd. Clicia ar hwn a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Bydd y system yn gofyn nifer o gwestiynau am dy ddewsiaidau iaith a lleoliad, bysellfwrdd, llygoden ayb. Os wyt ti'n ansicr am un o'r rhain clicia'r dewis diofyn. Bydd modd i ti newid rhain yn nes ymlaen beth bynnag. Bydd hefyd yn cynnig dewisiadau rhannu dy ddisg caled, gyda dewis ar gyfer rhannu'r ddisg yn awtomatig ar gyfer bwt deuol, ei rhannu dy hun, neu ddefnyddio Ubuntu ar y ddisg gyfan. Y dewis doeth fan hyn fyddai gofyn i Ubuntu wneud y gwaith o rannu dy ddisg, a dewis yr opsiwn cyntaf (Resize and use free space), gan nodi faint o le rwyt ti eisiau ar gyfer Ubuntu, a faint o le ar gyfer Windows (Clicia'r bawdlun i weld llun mwy).

Beth bynnag fydd dy ddewisiadau o safbwynt rhannu dy ddisg caled fe fyddi di'n cyrraedd sgrin sy'n gofyn i ti edrych ar yr opsiynau cyn mynd ymlaen i sefydlu Ubuntu, fel yn y bawdlun olaf uchod. Os wyt ti'n hapus gyda'r dewisiadau, clicia Install, ond nag wyt ti, clicia Back a cer yn ol i newid pethau.

Bydd cyfle i ti nawr i ailgychwyn dy system a llwytho Ubuntu o dy ddisg caled. Cofia dynnu'r cd cyn gwneud hynny.

Cer ati nawr i newid iaith y system i'r Gymraeg.

Adran Sefydlu a diweddaru ar fforwm Ubuntu

Tagiau:
digg it | del.icio.us

Dim sylwadau hyd yma. »

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>


Amdana i

Open Office Cymraeg

The Gimp



Categorïau

Tagiau

Cynghreirio