Llwytho Meddalwedd (1) - defnyddio Add/Remove
ubuntucymraeg @ 16:26
Mae'r broses o lwytho meddalwedd ar gyfrifiadur Ubuntu yn un hawdd sy'n golygu dau neu dri chlic yn unig. Mae nifer o ffyrdd o wneud hyn. Mae'r enghraifft hon yn defnyddio rhaglen Add/Remove. Clicia isod i ddarllen gweddill y cofnod.
Yn yr enghraifft hon byddwn yn llwytho rhaglen golygu dv o'r enw Kino. Yn gyntaf cer i Rhaglenni -> Add/Remove.

Wedi ti bori am y rhaglen a chlicio arni, bydd gofyn i ti glicio Gosod, ac wedi i ti gyflwyno dy gyfrinair bydd Ubuntu yn mynd ati i osod y rhaglen. Clicia ar y bawdluniau am luniau mwy o faint o'r broses.
Mae'r rhaglen nawr wedi ei gosod, a gallu di ei defnyddio drwy glicio ar Rhaglenni -> Sain a Fideo -> Kino
Tagiau: Ubuntu Cymraeg Llwytho Meddalwedd Add/Remove
digg it |
del.icio.us






Dim sylwadau hyd yma. »
Ymateb: