Newid Cefndir y Penbwrdd
ubuntucymraeg @ 12:09
Wedi i ti lwytho Ubuntu a newid iaith y system i'r Gymraeg mae'n bryd newid y cefndir penbwrdd brown yna! Mae dewisiadau gwahanol ar gael o fewn y system ei hun, ond i weld dewis o rai miloedd o ddelweddau cer i wefan gnome-look neu gnome art. Llwytha ddelwedd o dy ddewis a'i chadw mewn man cyfleus. Clicia isod i ddarllen gweddill y cofnod. Mae modd clicio ar bob bawdlun i gael llun mwy.
Cofia lwytho delwedd sy'n cyfateb i dy gydraniad sgrin di. Os nag wyth ti'n siwr beth yw hwnnw cer i System -> Hoffterau -> Cydraniad y Sgrin.
Nawr dy fod wedi llwytho delwedd newydd ar gyfer y penbwrdd mae'n bryd ei osod. Rho glic dde ar dy lygoden unrhyw le ar y penbwrdd, clicia ar Newid Cefndir y Penbwrdd, ac yn y sgrin sy'n agor clicia ar Ychwanegu Papur Wal.
Mae angen pori dy system wedyn am y ddelwedd wnes di ei llwytho, clicio arni ac wedyn ar Agor, a chlicio Gorffen. Dyna fe, cefndir newydd i'r penbwrdd.
Tagiau: Ubuntu Cymraeg Cefndir Penbwrdd Gnome
digg it |
del.icio.us






Dim sylwadau hyd yma. »
Ymateb: