Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Effeithiau 3D: Beryl (Ubuntu)

ubuntucymraeg @ 11:17


Effeithiau Penbwrdd Beryl ar waith ar system Ubuntu.

Tagiau:
digg it | del.icio.us

Sylwadau(4) »

  • Huw Waters — 2007-05-20 - 22:50:43 GMT 1

    Edrych yn ddeniadol iawn! Sut mae hyn yn gweithio? Ydio'r dibynnu ar brosesydd dual-core, fel mae Core animation am ei wneud yn Apple OS X Leopard?

  • ubuntucymraeg — 2007-05-22 - 08:37:50 GMT 1

    Helo! Na does dim angen prosesydd dual core i gael y penbwrdd 3D i weithio. Mae'n dibynnu ar gael cerdyn graffeg gweddol newydd. Mae cymuned Ubuntu yn creu gyrrwyr drwy reverse engineering i sicrhau bod gyrrwyr ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o gardiau NVIDIA (dyna sydd gen i yn y llun hwn) ac ATI, a llawer o rai eraill. Mae'r cwmniau hyn yn dechrau deffro hefyd a chreu gyrrwyr ar gyfer Ubuntu, yn enwedig nawr bod Dell wedi penderfynu gwerthu cyfrifiaduron gydag Ubuntu wedi sefydlu arnyn nhw.

    Erbyn Ubuntu 7.04 (a 6.10 i raddau) mae cael 3D i weithio i fod yn gymharol hawdd. Gan mai dim ond meddalwedd rhydd sy'n dod gyda'r pecyn bydd angen llwytho'r gyrrwyr perchnogol ar gyfer y cerdyn graffeg - ond mae System-> Gweinyddiaeth-> Restricted Managers Driver yn gwneud hyn drosot ti yn Ubunutu 7.04.

    Os ti angen cd ubuntu i chwarae heb orfod llwytho 700 mb anfon neges drwy ffurflen y blog hwn, mae gen i rai'n sbar - yr unig beth sydd angen nodi yw os yw dy system yn 64 bit neu beidio. Mae modd llwytho Ubuntu bwt deuol ar beiriant Mac Afal, ac mae adran arbennig o'r fforwm ar gyfer defnyddwyr Mac.

  • Huw+Waters — 2007-05-25 - 23:18:28 GMT 1

    Dwi di cael gafael ar CD Byw ar gyfer Mac, un o'r pethau mwyaf annoying am ei wneud, yw fod y tracpad ar y gliniadur yn araf iawn! Byse bosib ei gyflymu yn default? :-)

  • ubuntucymraeg — 2007-05-26 - 07:53:48 GMT 1

    Mae popeth yn arafach o lawer ar y cd byw. Ond os wyt ti'n sefydlu ubuntu ac yn canfod bod y broblem yn parhau, mae addasu ychydig ar dy ffeil xorg.conf yn gallu trwsio hyn. Mae'r trydydd post fan hyn yn cynnig ateb.

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>


Amdana i

Open Office Cymraeg

The Gimp



Categorïau

Tagiau

Cynghreirio