Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Llwytho meddalwedd (2) - defnyddio Synaptic

ubuntucymraeg @ 16:30

Rhaglen arall ar gyfrifiadur Ubuntu sy'n dy alluogi i lwytho meddalwedd yn hawdd ar y system yw rheolwr pecynnau Synaptic. Mae'n hawdd i'w ddefnyddio, yn rheoli pecynnau dibynnol sydd angen ar y meddalwedd, ac yn dy rybuddio os nad yw rhywbeth yn bosib. Clicia isod i ddarllen gweddill y cofnod. Mae pob bawdlun yn agor llun mwy o glicio arno.

I ddechrau cer i System -> Gweinyddiaeth -> Synaptic Package Manager. Cyflwyna dy gyfrinair pan fydd gofyn i ti wneud hynny.

Bydd y rheolwr pecynnau yn agor, a gallu di bori drwy wahanol gategoriau, neu ddefnyddio'r blwch chwilio i gael gafael mewn pecyn. Yn yr achos hwn byddaf yn llwytho porwr gwe Epiphany a rhai ategynnau.

Wedi i ti nodi dy fod am lwytho hwn drwy dicio'r blwch a chlicio Mark for Installation, clica ar Apply - yn yr achos hwn mae Synaptic yn nodi bod angen llwytho peth deunydd atodol i Epiphany weithio'n iawn. Wedi ti glicio Mark a wedyn Gosod bydd y system yn llwytho'r meddalwedd a'i osod.

Nawr bod Epiphany wedi ei osod clicia Cau a cer i Rhaglenni -> Rhyngrwyd -> Y Porwr Gwe Epiphany.

Nawr mae gen ti ddewis o borwyr Cymraeg, Epiphany neu'r un diofyn, Firefox. Clicia isod i weld Epiphany ar waith.

Tagiau:
digg it | del.icio.us

Dim sylwadau hyd yma. »

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>


Amdana i

Open Office Cymraeg

The Gimp



Categorïau

Tagiau

Cynghreirio