Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Creu Llwybr Tarw (Llwybr Byr) at raglen

ubuntucymraeg @ 18:55

Mae creu llwybr tarw neu lwybr byr at raglen neu feddalwedd yn debyg yn Ubuntu i systemau gweithredu eraill. Yn yr enghraifft hon byddaf yn creu llwybr byr at raglen porwr gwe Epiphany, ac yn gosod lansiwr ar y bwrdd gwaith ac mewn panel. I ddysgu sut i wneud hyn clicia'r ddolen isod. Mae clicio ar bob bawdlun yn agor llun mwy o faint.

Cer i Rhaglenni -> Rhyngrwyd -> Y Porwr Gwe Epiphany a rho glec dde ar hwn. Bydd yn cynnig tri dewis i ti. Clicia ar Ychwanegu'r lansiwr yma at y bwrdd gwaith. Bydd y lansiwr yn awr ar dy fwrdd gwaith.

I ychwanegu hwn fel lansiwr un clic ar y panel gallu ei lusgo i'r panel top neu'r panel gwaelod.

Tagiau:
digg it | del.icio.us

Sylwadau(2) »

  • Mei — 2007-05-15 - 22:48:43 GMT 1

    Duw, da di hwn!

    Does na'm llawer o flogs Cymraeg am dechnoleg, dwi'n falch o weld y nifer yn cynyddu.

    Mae gen i Ubuntu 6 ar y desktop, ochr yn ochr a WinXP. Dwi'm yn ei ddefnyddio llawer mwyach, mae gen i laptop sy'n fwy hwylus. Ond dwi'n dipio mewn bob hyn a hyn, i gael chwarae efo'r command line.

    Un arall i Bloglines!

  • ubuntucymraeg — 2007-05-15 - 23:31:52 GMT 1

    Diolch am y sylw. Dwi ddim yn arbenigwr, ond os fedra i helpu mewn unrhyw ffordd gyda dy brofiad Ubuntu rho wybod... :)

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>


Amdana i

Open Office Cymraeg

The Gimp



Categorïau

Tagiau

Cynghreirio