Rhaglenni craidd Ubuntu (1)
ubuntucymraeg @ 18:50
Mae'r pecyn Ubuntu craidd yn cynnwys y meddalwedd fydd angen arnat i gyflawni tasgau bob dydd ar dy gyfrifiadur. Mae hyn yn cynnwys rhaglen swyddfa lawn OpenOffice, porwr gwe Firefox, rhaglen ebost Evolution, golygydd graffeg The Gimp, gemau amrywiol, geiriaduron, a chwaraewr a llosgwr cd a dvd. Mae'r fersiwn Ubuntu diweddaraf hefyd yn cynnwys ffordd hawdd o lwytho codecs a meddalwedd masnachol fel flash, darllenydd adobe acrobat, java ayb. Mae'r rhan fwyaf o'r pecynnau sy'n rhan o'r dosbarthiad craidd ar gael yn y Gymraeg a ieithoedd eraill.

Mae pecyn OpenOffice yn cynnwys prosesydd geiriau hawdd ei ddefnyddio, rhaglen taenlenni, rhaglen creu cyflwyniadau a rhaglen cronfeydd data, i gyd mor bwerus ac effeithiol a rhaglenni cyfatebol Microsoft. Mae modd hefyd cadw dogfennau ar ffurf .doc ayb, a'u hagor gyda rhaglenni fel Word ar gyfrifiaduron heb Ubuntu. Mae OpenOffice ar gael yn y Gymraeg.

Y porwr diofyn ar Ubuntu yw Mozilla Firefox. Hwn yw'r porwr gwe gorau sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae wedi ennill llu o wobrau, yn cydymffurfio a safonau gwe cydnabyddedig, yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer darllen ffrydiau, yn ddiogel ac yn ddeniadol. Mae Firefox ar ar gael yn y Gymraeg.

Rhaglen bwerus Evolution yw'r rhaglen ebost ddiofyn sy'n dod gyda Ubuntu. Mae'n cynnwys nifer o nodweddion deniadol, gan gynnwys hidlo sbam yn effeithiol. Mae Evolution ar gael yn y Gymraeg.

The Gimp yw un o'r rhaglenni graffeg diofyn ar Ubuntu. Mae'n cynnwys nifer o elfennau rhaglenni fel Photoshop neu Paint Shop Pro, gan gynnwys haenau, cefnogaeth i fformatau gwahanol, animeiddio, a'r holl offer arferol sydd i'w disgwyl mewn rhaglen graffeg.
Mwy i ddod am raglenni Ubuntu.
Tagiau: Ubuntu Cymraeg Firefox Evolution OpenOffice Gimp
digg it |
del.icio.us





Dim sylwadau hyd yma. »
Ymateb: