Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Newid thema ac eiconau

ubuntucymraeg @ 14:38

Mae'n hawdd iawn i addasu Ubuntu a dewis un o'r miloedd o themau sydd ar gael drwy wefannau fel gnome-looks. Yn yr enghraifft hon byddaf yn gosod thema Mac OSX gyda bar gwaelod sy'n cynnwys lansiwr mawr fel yn y llun isod.

Yr un yw'r broses ar gyfer unrhyw thema neu set o eiconau fyddi di'n dewis gosod ar dy gyfrifiadur.

Cael gafael mewn thema ac eiconau

  • Llwytha'r pecyn T-ish - Clearlooks o fan hyn a'i gadw mewn man cyfleus
  • Llwytha eiconau Mac OS X o fan hyn a'u cadw mewn man cyfleus

Gosod y thema a'r eiconau

Cer i System -> Hoffterau -> Thema, dewis Ymsefydlu Thema, wedyn pori i ble rwyt ti wedi cadw'r thema, clicia ar becyn T-ish for Clearlooks, a bydd y rheolwr thema yn ei osod. Ailadrodd y broses hon ar gyfer pecyn eiconau OSX. Yn olaf, dewis T-ish o'r rhestr themau a chlicio Cau. Bydd y thema newydd wedi ei gosod.

Mae modd addasu pa eiconau sy'n mynd gyda bob thema, a newid dy gyfrifiadur nes dy fod yn hapus gyda sut mae'n edrych.

Creu lansiwr eiconau mawr tebyg i Mac OS

Nawr mae'n bryd troi at y panel gwaelod. Y nod yw i greu panel gyda lanswyr rhaglenni yn unig. Mae'r pecyn Ubuntu diofyn yn cynnwys lanswyr ar gyfer y bin sbwriel, dewiswr penbwrdd a botwm dangos penbwrdd. Byddwn yn gosod rhain yn y panel top wedyn. Felly mae angen tynnu popeth o'r panel gwaelod am nawr. I wneud hyn rho glic dde i bob lansiwr a dewis Tynnu o'r panel nes bod gen ti banel gwaelod gwag.

Nawr rho glic dde i'r panel gwaelod gwag a dewis Priodweddau. Newid maint y panel i 50 a dad-dicio pob un o'r blychau. Wedyn clicia ar Cefndir a dewis Lliw Unffurf, a newid y lliw i gwyn os mai nid hwn yw'r dewis diofyn, a symud y sleidiwr Arddull fel yn yr ail lun isod. Nawr mae'r panel yn barod i ychwanegu lanswyr ato.

I ychwanegu lanswyr rhaglenni cer i Rhaglenni a rho glec dde i'r rhaglen o'r ddewislen, a dewis Ychwanegu'r lansiwr yma at y bwrdd gwaith. Wedyn cydia yn y lansiwr o'r bwrdd gwaith a'i lusgo i'r panel gwaelod. Bydd angen ailadrodd y broses hon ar gyfer lansiwr pob rhaglen rwyt ti am ei chynnwys yn y panel, a gallu di ddileu'r lanswyr o'r bwrdd gwaith ar ol gorffen. Nawr fe ddylai dy banel gwaelod edrych rhywbeth fel hyn.

Rhoi bin sbwriel a pethau eraill nol yn y panel top

I wneud hyn rho glic dde i'r panel top a dewis Ychwanegu at y panel. Bydd y rhaglenni wnes di dynnu o'r panel gwaelod fan hyn, a gallu di ddewis eu gosod yn y panel top.

Tagiau:
digg it | del.icio.us

Dim sylwadau hyd yma. »

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>


Amdana i

Open Office Cymraeg

The Gimp



Categorïau

Tagiau

Cynghreirio