5 rheswm dros ddewis Ubuntu yn lle Windows
ubuntucymraeg @ 19:00
Rwyt ti eisoes yn gwybod o ddarllen y blog hwn bod Ubuntu yn system ddeniadol ac effeithiol sy'n cynnwys meddalwedd pwerus, felly dyma 5 dadl arall i dy berswadio i ddewis Ubuntu ac nid Windows, neu o leiaf i roi cynnig ar Ubuntu ochr yn ochr a Windows.
Diogelwch
Diogelwch yw un o fanteision pennaf Linux. Yn 2005 cyhoeddwyd 812 o wendidau diogelwch yn Windows XP, sef 15 bob wythnos. Yn yr un flwyddyn roedd y cwmni Sophos sy'n creu meddalwedd gwrthfeirws yn nodi bod eu cynnyrch yn amddiffyn Windows rhag 103,000 feirws gwahanol! Mae gwendidau system Windows wedi arwain at greu diwydiant cyfan sy'n creu rhaglenni gwrthfeirws, ac mae'n rhaid prynu meddalwedd ychwanegol i amddiffyn y system, a llwytho hwn ar Windows. Ers creu Linux nol ar ddechrau'r 1990au mae llai na 50 feirws wedi effeithio ar y system, ac fe gafodd rhain eu dofi'n syth drwy addasu ychydig ar y cod a rhyddhau diweddariad. Does dim un feirws all effeithio ar Linux yn weithredol neu "yn dal yn wyllt" ar hyn o bryd.
Rheolaeth dros y system
Mae Ubuntu yn annog y defnyddiwr i reoli ei gyfrifiadur, nid ei drin fel rhyw fath o focs hud sy'n cynnwys triciau o bob math. Yn syth ar ol sefydlu Ubuntu mae gan y defnyddiwr reolaeth lwyr dros y system. Un gymhariaeth yw dy fod yn yrrwr a mecanic y car ar yr un pryd yn Linux, tra bod defnyddio Windows fel bod yn yrrwr heb fawr o glem am y car na ble mae'n mynd.
System sydd ddim yn chwalu (crasho)
Mae profiadau pobl yn amrywio ond ers dechrau defnyddio Linux does dim un cyfrifiadur wedi chwalu gen i. Dyw'r llygoden byth yn rhewi ar y sgrin, does dim blychau rhyfedd yn adrodd gwallau, dyw ffenestri ddim yn rhewi neu'n gwrthod agor heb reswm, a dyw sgrin las marwolaeth ddim wedi fy ngorfodi i ailfywiogi fy nghyfrifiadur.
Y cyfan am ddim
Mantais arall yw bod Ubuntu'n rhad ac am ddim, ac mae diweddaru'r system yn rhad ac am ddim. Dyma un o addewidion craidd Ubuntu: Bydd Ubuntu a diweddariadau Ubuntu wastad yn rhad ac am ddim. I'r perwyl hwn mae'r person wnaeth sefydlu Ubuntu, Mark Shuttleworth, wedi neilltuo $10,000,000 i Sefydliad Ubuntu i sicrhau bod yr addewid yn cael ei chadw os fydd rhywbeth yn digwydd iddo fe neu i Canonical, ei gwmni. Ond yn ogystal a bod yn rhad ac am ddim mae hawl copio a rhannu Ubuntu heb dorri unrhyw gyfraith - mae'r bobl sy'n creu Ubuntu'n mynd mor bell a dy annog i wneud hynny! Dyw Ubuntu na'r meddalwedd rhydd sy'n dod gyda'r system ddim yn cynnwys cod cofrestru, does dim rhaid ffonio neb i gael dechrau ei ddefnyddio, a does dim neb yn busnesa ar dy gyfrifiadur neu'n bygwth ei gau i lawr os nag wyt ti'n defnyddio pecyn dilys.
Cymuned Ubuntu
Yn ogystal ag annog pobl i rannu'r meddalwedd, mae Ubuntu yn annog pobl i rannu profiadau a helpu ei gilydd. Dyma ystadegau fforwm cefnogi Ubuntu ar Fai 22, 2007 - Aelodau: 304,349; Cyfraniadau: 2,691,415 ... ac mae'n gymuned sy'n tyfu ac aeddfedu drwy'r amser fel y system ei hun.
Tagiau: Ubuntu Cymraeg
digg it |
del.icio.us






Sylwadau(2) »
Mei — 2007-05-22 - 22:37:09 GMT 1
Un rheswm arall: beryl.
Rhaid bod yn ofalus gyda'r ail bwynt - dim pawb sydd am fod yn fecanic, mae llawer jyst isho car i fynd nol a mlaen i'r gwaith.
Ond ar yr llaw arall, mae Ubuntu yn gweithio'n syth (Just Works™) allan o'r bocs, heb orfod ffidlan efo gyrrwyr i'r argraffwyr, setio'r rhwydwaith fyny ayyb.
Gwelodd fy Ubuntu bopeth ar y cyfrifiadur heb i fi orfod gwneud dim. O'n i ar Firefox o fewn munuduau o logio mlaen am y tro cyntaf.
ubuntucymraeg — 2007-05-23 - 08:02:00 GMT 1
Cytuno'n llwyr a hyn. Mae Ubuntu yn rhoi'r dewis i'r defnyddiwr i reoli ei gyfrifiadur, neu jyst ei ddefnyddio heb orfod ffidlan o gwbwl.
Ti'n iawn - o mhrofiad i dyma'r linux cyntaf i weithio allan o'r bocs. Trio pwysleisio bod gen ti ddewis i neud fel ti eisiau gyda'r system o'n i, ond nes i anghofio nodi nad oes angen gwneud dim byd mewn gwirionedd, just llwytho a defnyddio.
Ymateb: