Creu rhestr o galedwedd y cyfrifiadur
ubuntucymraeg @ 15:09
Does dim angen i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr Ubuntu wybod dim am eu caledwedd gan bod Ubuntu yn gweithio'n syth o'r bocs. Serch hynny, efallai oherwydd chwilfrydedd, neu oherwydd dy fod eisiau addasu rhywbeth mwy cymhleth, gall fod yn ddefnyddiol ar adegau i gael rhestr wrth law o galedwedd y cyfrifiadur. Mae hyn yn syml iawn i wneud ar Ubuntu.
Agor terfynell a theipia sudo lshw -html > caledwedd.html
Bydd ffeil newydd o'r enw caledwedd.html sy'n rhestru holl galedwedd dy system yn ymddangos yn dy blygell cartref, a gallu symud hon i rywle cyfleus, a'i hagor gyda Firefox drwy glicio arni ddwywaith.
Tagiau: Caledwedd Ubuntu Cymraeg
digg it |
del.icio.us






Un Sylw »
Huw Waters — 2007-05-23 - 17:45:27 GMT 1
Dwi'n reit ddig na dim ond Apple sy'n ei wneud i raddau hyd yn hyn, ond y ffordd ymlaen yw gosod EFI (Enhanced Firmware Interface) mwy cynhwysfawr, fel nad oes angen meddalwedd ar OS redeg y caledwedd. Gad y caledwedd i redeg ac uwchraddio'i hun a gwneud i ffwrdd gyda 'drivers'.
Ymateb: