Beth yw Feisty Fawn a phwy yw y Gutsy Gibbon?
ubuntucymraeg @ 18:32
Yn ogystal a diweddaru dy system yn awtomatig yn gyson, mantais arall o ddefnyddio Ubuntu yw bod dosbarthiad newydd o'r system yn cael ei ryddhau bob rhyw chwech mis. Mae hyn yn golygu bod y system yn medru bod yn berthnasol i'r datblygiadau mwyaf diweddar mewn technoleg, ac nad oes rhaid i ti aros am ryw 6 neu 7 mlynedd am fersiwn newydd o'r system weithredu fel gyda Windows. Mae llysenw a rhif gan bob dosbarthiad, a mater hawdd ar y fersiynau diweddar o Ubuntu yw defnyddio System -> Gweinyddiaeth -> Update Manager i uwchraddio i'r dosbarthiad diweddaraf.
Mae'r rhif sy'n cyfateb i bob dosbarthiad yn defnyddio'r flwyddyn a'r mis: er enghraifft cafodd Feisty Fawn ei ryddhau yn Ebrill 2007 felly 7.04 yw'r cod amdano. Dyma grynodeb o'r dosbarthiadau o Ubuntu. Mae'r arbenigwyr Ubuntu yn annog defnyddwyr i uwchraddio o'r fersiwn diwethaf, ac nid er enghraifft, ceisio uwchraddio i 7.04 o 6.06. Gan bod uwchraddio mor hawdd, mater o dreulio rhyw awr bob rhyw 6 mis, a chlicio dau neu dri botwm yw'r broses. Serch hynny, byddi'n siwr o ffeindio dy fod mor gyfforddus a hapus gyda'r fersiwn sydd gen ti fel na fyddi eisiau uwchraddio mor aml - ac efallai mai unwaith bob rhyw 18 mis y byddi'n troi dy sylw at hyn.
| Fersiwn | Dyddiad Rhyddhau | Enw |
| 4.10 | 20 Hydref 2004 | Warty Warthog |
| 5.04 | 08 Ebrill 2005 | Hoary Hedgehog |
| 5.10 | 13 Hydref 2005 | Breezy Badger |
| 6.06 (CTH)* | 01 Mehefin 2006 | Dapper Drake |
| 6.10 | 26 Hydref 2006 | Edgy Eft |
| 7.04 | 19 Ebrill 2007 | Feisty Fawn |
| 7.10 | 18 Hydref 2007 | Gutsy Gibbon |
* Mae Ubuntu yn cynnig cefnogaeth lawn i'r dosbarthiadau gwahanol hyn am gyfnod penodol. Roedd 6.06 yn arbennig gan ei fod yn cynnig Cefnogaeth Tymor Hir i fusnesau ac unigolion. Roedd yn bwysig i fusnesau wybod y byddai cefnogaeth am o leiaf 5 mlynedd i'w gweinyddion. Dyma ddiagram sy'n dangos pa mor hir mae cefnogaeth broffesiynol ar gael ar gyfer bob fersiwn.
Tagiau: Ubuntu Cymraeg Dosbarthiad Diweddaru
digg it |
del.icio.us






Dim sylwadau hyd yma. »
Ymateb: