Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Athroniaeth Ubuntu

ubuntucymraeg @ 07:06

Mae athroniaeth Ubuntu yn seiliedig ar y syniad o feddalwedd rhydd a dilyffethair, ac yn sail i'r athroniaeth hon mae tri delfryd craidd:

  1. Dylai pob defnyddiwr cyfrifiadur fod yn rhydd i lwytho, rhedeg, copio, dosbarthu, astudio, rhannu, newid a gwella meddalwedd at unrhyw bwrpas, heb dalu ffioedd trwyddedu.
  2. Dylai pob defnyddiwr gael dewis ym mha iaith mae eisiau defnyddio'i gyfrifiadur.
  3. Dylai pob defnyddiwr gael y cyfle i ddefnyddio meddalwedd, hyd yn oed os yw'n gweithio dan anabledd.

Mae'r athroniaeth hon yn cael ei hadlewyrchu yn y meddalwedd sy'n cael ei gynhyrchu a'i ddosbarthu gan Ubuntu. Pan fyddi'n sefydlu Ubuntu ar dy gyfrifiadur, mae bron pob darn o feddalwedd yn cyrraedd y nodau hyn, ac mae Ubuntu'n gweithio i sicrhau y bydd y cyfan yn cyrraedd y nod.

Polisi Trwyddedu Ubuntu

Tagiau:
digg it | del.icio.us

Dim sylwadau hyd yma. »

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>


Amdana i

Open Office Cymraeg

The Gimp



Categorïau

Tagiau

Cynghreirio