Brenin y Sêr: cyfweliad gyda Mark Shuttleworth
ubuntucymraeg @ 15:14
![]() |
Mae wedi teithio i'r gofod ar Soyuz TM-34, wedi ffurfio cwmni Thawte Consulting a'i werthu'n ddiweddarach am $500 miliwn, ac wedi cynorthwyo i sefydlu, datblygu a hybu Ubuntu Linux. Mewn cyfweliad diweddar bu Mark Shuttleworth yn trafod ei fywyd, Dell yn gwerthu Ubuntu, a cheisio cael gyrrwyr côd agored wrth werthwyr caledwedd. Dyma grynodeb o'r cyfweliad hwnnw. |
Rwy'n 33 oed, yn hannu o Dde Affrica, ac yn byw yn Llundain. Rwy wedi bod yn ddefnyddiwr Linux angerddol ers canol y 1990au. Cafodd cwmni Thawte ei adeiladu ar Linux a meddalwedd rhydd. Bwriad prosiect Ubuntu yw creu System Weithredu (SW) y gall bawb ei defnyddio, sy'n rhydd ac am ddim, ac o safon uchel iawn, a hynny ar gyfer y cartref, y swyddfa a gweinyddion...
Mae nifer o bobl wedi dadlau bod llwyddiant Ubuntu'n dibynnu ar fy nghyfoeth i a'r gefnogaeth dechnolegol wrth Canonical. Efallai bod hyn yn wir yn y dyddiau cynnar, ond yn gynyddol mae Ubuntu'n sefyll ar ei draed ei hunan. Mae llai o llai o bobl yn gofyn cwestiynau i fi am y gofod, a mwy yn gofyn am faterion Ubuntu. Rwy'n siwr bod fy mhroffil uchel wedi bod o gymorth i dynnu sylw at Ubuntu ar y dechrau, ond mae'r sylw mae'n derbyn erbyn hyn oherwydd rhinweddau amlwg y SW. Nid fi sydd i ddiolch am hyn, ond y gymuned gyfan. Mae rhywbeth yn arbennig iawn am gymuned Ubuntu...
Mae dau beth newydd yn Feisty Fawn (Ubuntu 7.04) sy'n ddiddorol iawn i'r defnyddiwr. Yn gyntaf mae'r teclyn mudo o Windows yn ei gwneud yn hawdd i symud o Windows i Ubuntu, yn enwedig i'r rhai sydd eisiau cyfrifiadur bwt deuol. Yr ail beth yw pa mor hawdd yw hi i sefydlu codecs. Mae rhwystrau cyfreithiol ar y codecs yma'n bodoli mewn rhai gwledydd, a'n nod yw ei gwneud yn hawdd i'r defnyddiwr sefyldu codecs a dewis beth i sefydlu...
Mae bwrdd gwaith Gnome (un o'r ddau brif ddewis yn Linux a dewis diofyn Ubuntu) wedi gosod nod o sicrhau 10% o'r farchnad fyd eang erbyn 2010. Rwy'n meddwl y bydd yn llwyddo i wneud hynny yn rhannau o'r byd, ac yn methu mewn rhannau eraill. Mae gan Ubuntu berthynas dda gyda'r ddau brif fwrdd gwaith, sef Gnome a KDE...
O ran cyrraedd y brif ffrwd mae Linux eisoes wedi sefydlu ei hun fel y dewis doeth ar gyfer rhedeg gweinydd. Dyw hyn heb ddigwydd eto gyda'r Cyfrifiadur Personol (PC). Mae cam Dell yn gam bach ond arwyddocaol i'r cyfeiriad hwn, ond mae'n gam petrus ddaeth yn sgil galw cynyddol wrth y cyhoedd. Os yw cymuned Linux eisiau cael ei chymryd o ddifri gan werthwyr caledwedd, argraffwyr, camerau, a gwneuthurwyr cardiau fideo, yna mae'n rhaid i bobl bleidleisio gyda'u pocedi. Dyna beth sy'n mynd i gael yr argraff fwyaf ar y cwmniau caledwedd. Mae angen darganfod ffordd o ddweud wrth wneuthurwyr ein bod yn prynu eu cynnyrch oherwydd ei fod yn gallu rhedeg Linux, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn prynu cyfrifiaduron wrth Dell ac yn dangos eu bod yn gwneud hynny er mwyn gallu rhedeg Linux...
Rwy'n gweld Linux fel person ifanc yn ei arddegau, braidd yn dorky, ond yn llawn potensial. Mae'r farchnad PC yn un gymhleth, a welwn ni ddim newid a symudiad mawr at Linux fel ddigwyddodd gyda gweinyddion, ond mae gan Linux y fantais amlwg o fod yn hyblyg. Mae llawer iawn o nwyddau electronig sy'n bethau newydd a chyfforus yn rhedeg Linux oherwydd ei fod mor hyblyg...
Hefyd, cyfweliad Mark Shuttleworth gyda Dell: wmv | mp4 | ogg
Tagiau: Ubuntu Cymraeg Mark Shuttleworth
digg it |
del.icio.us







Dim sylwadau hyd yma. »
Ymateb: