Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Rhedeg gweinydd prawf ar Ubuntu

ubuntucymraeg @ 19:05

Os oes gen ti ddiddordeb mewn gwefannau ac eisiau arbrofi wrth adeiladu gwefan, neu eisiau potsian, yna mae'n debyg y bydd angen gweinydd prawf arnat ti. XAMPP

Yn hytrach na thalu cwmni am weinydd byw sy'n agored i bawb, beth am redeg gweinydd Apache, MySql a php (LAMP) ar dy gyfrifiadur dy hun.

Swnio'n gymhleth? Wel mae'n hawdd yn Ubuntu os wnei di ddefnyddio XAMPP. Fe fyddi di'n dysgu rhai pethau elfennol am ddefnyddio terfynell wrth ddilyn y cyfarwyddiadau syml hyn. Mae cyfarwyddiadau tebyg ar gael yn Saesneg o'r dudalen ble fyddi di'n llwytho'r pecyn XAMPP, ond byddaf yn ychwanegu at rain a'u hesbonio rhag ofn dy fod newydd ddechrau defnyddio Linux. Byddaf hefyd yn esbonio rhai pethau sydd ddim yn y cyfarwyddiadau Saesneg, fel sut i greu lansiwr syml.

Paratoi: Y cam cyntaf yw creu plygell newydd a'i galw'n "gweinydd". Cer i blygell cartref (Mannau-> Plygell Cartref) wedyn creu plygell newydd o'r enw gweinydd (Ffeil->Creu Plygell a theipio gweinydd yn lle plygell dideitl).

Llwytho: Nawr mae angen cael gafael yn XAMPP. Llwytha'r fersiwn Linux (.tar.gz) diweddaraf o fan hyn a'i gadw yn y ffolder rwyt ti newydd greu (gweinydd). Os yw dy borwr yn cadw pethau'n awtomatig rhywle arall symud y pecyn i'r ffolder gweinydd ar ol ei lwytho.

Sefydlu: Agor terfynell a symud i'r ffolder ble rwyt ti wedi cadw'r ffeil .tar.gz. Mae'r gorchymyn cd yn dy symud o un plygell i'r llall, felly os wyt ti wedi dilyn y cyfarwyddiadau uchod bydd teipio'r canlynol mewn terfynell

cd /home/owen/gweinydd a newid owen i dy leoliad di!

yn dy symud i'r ffolder ble mae'r ffeil tar.gz.

XAMPP

Bydd teipio'r canlynol a chyflwyno dy gyfrinair yn dadbacio XAMPP a'i osod ar dy system yn y ffolder /opt/

sudo tar xvfz xampp-linux-1.6.2.tar.gz -C /opt

(Os wyt ti wedi llwytho fersiwn mwy diweddar bydd angen newid y darn 1.6.2 i dy fersiwn di).

Dyna ni! Mae XAMPP wedi ei osod yn y ffolder /opt/lampp

Cychwyn XAMPP: Mae dwy ffordd o gychwyn ac atal XAMPP. Yn gyntaf drwy ddefnyddio terfynell a theipio'r canlynol i'w gychwyn:

sudo /opt/lampp/lampp start

a bydd Apache, MySql a rhaglenni eraill yn cychwyn.

XAMPP

I stopio XAMPP bydd angen teipio'r canlynol, a bydd yn stopio'r prosesau yn eu tro:

sudo /opt/lampp/lampp stop

XAMPP

Neu mae modd creu lansiwr hawdd i'w ddefnyddio sy'n rhoi rheolaeth graffegol dros XAMPP. Mae gwneud hyn yn broses dau gam.

Yn gyntaf agor terfynell a theipio

gedit /home/owen/gweinydd/rheolixampp
(Eto, rhaid newid yr owen i dy enw di)

Gluda'r canlynol i'r ffeil a'i chadw:

[Desktop Entry]
Comment=Start/Stop XAMPP
Name=XAMPP Control Panel
Exec=gksudo "python /opt/lampp/share/xampp-control-panel/xampp-control-panel.py"
Icon[en_CA]=/usr/share/icons/Tango/scalable/devices/network-wired.svg
Encoding=UTF-8
Terminal=false
Name[en_CA]=XAMPP Control Panel
Comment[en_CA]=Start/Stop XAMPP
Type=Application
Icon=/usr/share/icons/Tango/scalable/devices/network-wired.svg

Bydd lansiwr Xampp tebyg i'r un isod yn ymddangos yn /home/xxxx/gweinydd

XAMPP

ac o glicio ddwywaith arno bydd gennyt banel rheoli tebyg i hwn.

XAMPP

Profi XAMPP: I weld os yw XAMPP wedi llwytho cychwyn y rhaglen gyda'r cyfarwyddiadau uchod, wedyn agor dy borwr a theipio:

http://localhost yn y bar cyfeiriad, ac fe ddylet weld rhywbeth fel hyn.

Diogelwch: Mae'n berffaith ddiogel rhedeg XAMPP ar gyfrifiadur Linux. Mae Xampp yn cynnig cyfarwyddiadau diogelwch pellach os wyt ti'n poeni, neu os wyt ti ar gyfrifiadur cyhoeddus, ond does dim angen rhain ar y rhan fwyaf o bobol. Dyw'r arbenigwyr ddim yn argymell y dylet ei redeg fel gweinydd cyhoeddus serch hynny.

Dyw XAMPP ddim yn rhedeg wrth i ti gychwyn Ubuntu, a ti sy'n rheoli pryd mae'n dechrau a stopio.

Bydd cyfarwyddiadau pellach ar sut i ddefnyddio Xampp fan hyn cyn bo hir!

Tagiau:
digg it | del.icio.us

Dim sylwadau hyd yma. »

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>


Amdana i

Open Office Cymraeg

The Gimp



Categorïau

Tagiau

Cynghreirio