Strwythur cyfeiriaduron a ffolderi yn Ubuntu
ubuntucymraeg @ 18:14
Efallai mai un o'r pethau sy'n creu'r penbleth mwyaf i ddefnyddiwr Linux newydd yw strwythur y system, ac yn enwedig yr enwau dieithr. Does dim C: a program files ayb yn Linux, ond mae 'na bethau sy'n swnio'n rhyfedd i ddechrau fel /opt ac /etc. Dyma arweiniad cyflym i strwythur system Ubuntu.
I weld cynnwys cyfeiriadur gallu di bori'r system ffeiliau drwy fynd i Mannau -> Cyfrifiadur -> System Ffeiliau. Mae modd i ti hefyd ddefnyddio terfynell i symud o un man i'r llall gyda'r gorchymyn cd, ac yna rhestru cynnwys y cyfeiriadur gydag ls.
![]() |
/ | Cyfeiriadur blaenslaes yw cyferiadur gwraidd Linux. Hwn yw'r cyfeiriadur uchaf, ac mae POPETH yn cychwyn o fan hyn. Pan fyddi'n teipio /bin, beth mae hynny'n golygu mewn gwirionedd yw cychwyn yn / a mynd i gyfeiriadur bin. |
![]() |
/root | Dyma ble mae'r defnyddiwr gwraidd yn byw. Hwn yw duw dy system, a gall wneud unrhywbeth. Bydd yn ofalus os wyt ti'n defnyddio root. Mae'n llawer mwy diogel defnyddio sudo ar gyfer gweithredoedd sydd angen hawliau defnyddiwr gwraidd. |
![]() |
/bin | Dyma ble mae rhaglenni Linux safonol sydd angen i redeg y system yn byw, pethau fel gunzip, chown, chmod ac ls. Daw enw'r ffolder o'r gair Saesneg binary oherwydd bod rhaglenni'n cael eu cadw yma. |
![]() |
/etc | Yn /etc mae stwff gweinyddol a chyfluniad dy sytem. Os wyt ti'n llwytho rhaglen fel firefox ac eisiau newid y cyfluniad, yna bydd y ffeil mwy na thebyg yn /etc/firefox. |
![]() |
/dev | Daw dev o'r gair Saesneg devices, ac yng nghyfeiriadur /dev mae'r ffeiliau sy'n rheoli dyfeisiau fel cd rom ayb. |
![]() |
/home | Dyma ble mae dy ffeiliau di'n cael eu cadw. Dy blygell penbwrdd, ffeiliau cyfluniad sy'n benodol i ti, dy gerddoriaeth, lluniau ayb. Bydd gan bob defnyddiwr blygell /home/enwdefnyddiwr ei hun. |
![]() |
/tmp |
Cyfeiriadur sy'n cadw ffeiliau dros dro. Mae ambell i system Linux yn clirio /tmp yn awtomatig, felly paid rhoi ffeiliau rwyt ti am eu cadw yma. |
![]() |
/usr | Dyma ble mae pethau sydd ddim yn dod o dan /etc a /bin yn cael eu cadw. Pethau fel gêmau, argraffwyr ayb. Mae'r cyfeiriadur yn rhannu yn is-blygellau fel /usr/bin ac /usr/share ayb. |
![]() |
/opt | Dyma ble mae deunydd opsiynol yn cael ei roi. Er enghraifft, os wnes di ddilyn y cyfarwyddiadau i lwytho XAMPP fe weli di bod ffeiliau'r gweinydd yn cael eu cadw fan hyn dan /opt/lampp. |
![]() |
/media | Mae Ubuntu'n defnyddio'r cyfeiriadur hwn i lwytho pethau fel gyrriant disg ychwanegol, co' bach usb ayb. |
Tagiau: Ubuntu Cymraeg Cyfeiriadur Ffolder
digg it |
del.icio.us







Dim sylwadau hyd yma. »
Ymateb: