Blogiwr newydd ar Ubuntu Cymraeg
ubuntucymraeg @ 13:50
Croeso i flogiwr newydd ar Ubuntu Cymraeg, sef JFW.
Mae JFW wedi symud yn gyfangwbl i ddefnyddio Ubuntu'n ddiweddar, ac yn defnyddio'r system ar gyfer pob math o waith. Bydd ei brofiad o ddefnyddio rhaglenni i drafod deunydd aml-gyfrwng gwahanol yn werthfawr iawn.
Mae croeso i unrhyw un arall sy'n defnyddio Ubuntu flogio ar y safle a rhannu eu profiadau ag eraill. Anfon neges drwy'r ffurflen gysylltu i wneud cais am gyfri.
Tagiau: Ubuntu Cymraeg JFW Blogiwr Newydd
digg it |
del.icio.us






Sylwadau(2) »
Rhoslyn Prys — 2007-06-19 - 21:07:32 GMT 1
Mae JFW wedi bod mewn cysylltiad ynglŷn â rhedeg Cysgliad ar Ubuntu. Rwyf wedi anfon ato gyfarwyddiadau Rhys Jones ar sut mae rhedeg Cysgliad ar Linux (Fedora Core 3). Dwi di gosod y cyfarwyddiadau ar dudalen Projectau Meddal.com fel bod modd i bobl eraill eu gweld. Mae'r cyfarwyddiadau braidd yn hen ond gobeithio bod modd defnyddio Cysgliad yn Ubuntu. Hwyl!
ubuntucymraeg — 2007-06-20 - 21:29:27 GMT 1
Diolch i Rhoslyn Prys am y wybodaeth. Does gen i ddim Wine wedi ei sefydlu felly does gen i ddim modd o'u profi. Ond rwy am ddilyn y cyfarwyddiadau a phostio fan hyn pan gaf gyfle. Un pwynt bach ond pwysig: Mae modd llwytho Wine drwy ddefnyddio Automatix2 - dim ond clicio ac mae'r rhaglen yn gwneud y gweddill. Felly am wn i does dim angen mynd drwy camau 1, 2 a 3 o gyfarwyddiadau Rhys Jones.
Ymateb: