Ysgrifennu i ddisg allanol ntfs
ubuntucymraeg @ 11:42
Os wyt ti eisiau defnyddio cof caled allanol ar dy gyfrifiadur Ubuntu, ac yn prynu un wedi fformatio fel ntfs yn hytrach na fat32, bydd angen gwneud y canlynol i sicrhau dy fod yn gallu ysgrifennu i hwn. Yn y gorffennol roedd yn broses gymharol gymhleth, ond erbyn Ubuntu 7.04 mae'n broses hawdd.
1 Llwytho meddalwedd ntfs-config
Agor y rheolwr pecynnau synaptig a defnyddia Chwilio i ddod o hyd i ntfs-config. Marcia hwn a chlicia Apply. Bydd y system yn nodi bod angen llwytho pecynnau dibynnol eraill, felly clicia Iawn i hyn.
2 Defnyddio meddalwedd ntfs-config
Nawr cer i Rhaglenni -> Offer System -> NTFS Configuration Tool, cyflwyna dy gyfrinair pan fydd yn gofyn am hynny, clicia Diddymu ar y sgrin gyntaf, a ticia'r blwch Enable write support for external device pan fydd yn gofyn.
3 Nodiadau
Mae'n bosib na fydd y sgrin gyntaf yn ymddangos i ti, mae'n dibynnu ar osodiadau dy system. Bu'n rhaid i mi ailgychwyn y cyfrifiadur i allu ysgrifennu i'r cof caled allanol.
Tagiau: Ubuntu Cymraeg NTFS
digg it |
del.icio.us






Un Sylw »
jfw — 2007-07-02 - 20:23:57 GMT 1
Mae hyn yn handi iawn. Mi brynais i MyBook er mwyn symud stwff rhwng y cyfrifiaduron, a fel 'back-up'. Mi ges i lot o broblemau ar y cychwyn. Doedd y system ddim yn caniatau i mi ysgrifennu iddo fo.
Y ffordd wnes i ddatry y broblem yw:
sudo chmod 777 'y llwybr i MyBook'
Ymateb: