Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Hen Gyfrifiaduron - Damn Small Linux

jfw @ 20:14

Mae'r busnes newid i Ubuntu wedi achosi i mi drio gwneud rhywbeth gyda'r hen gyfrifiaduron sy wedi bod yn eistedd yn y cwt ers blynyddoedd.

Mae gen i hen gliniadur (Toshiba Satellite Pro CDT 450 133MHz gyda 32Mb o RAM), a hen focs ahysbys (700MHz gyda 128Mb o RAM). Dim digon o nerth gan y ddau i redeg Ubuntu.

Ar ôl tipyn o ymchwil ar y We, mi ddes i o hyd i Damn Small Linux. Mae'n reit hawdd i'w osod, ac mae'r cyfrifiaduron yn gweithio'n ffein. Mae 'na ddigon ohonyn nhw yn y tŷ rwan ar gyfer pob aelod o'r teulu a'r gath hefyd.

Y cam nesa' yw sefydlu rhwydwaith...


digg it | del.icio.us

Sylwadau(3) »

  • Mei — 2007-07-03 - 20:08:00 GMT 1

    Mae Slax yn reit dda hefyd.

  • Rhys — 2008-03-26 - 18:07:38 GMT 1

    Dwi'n gobeithio etifeddu hen (hen hen) liniadur o'r gwaith. Ddim yn siwr o'i spec eto, ond mae o leiaf 10 mlwydd oed. Meddwl arbrofi gyda Linux. dwi heb fentro o'r blaen - Hoffwn osod Firefox (sy'n dod gyda fo ta beth) ac hefyd OpenOffice arno. Fyddai DSL yn addas ti'n meddwl, neu alli di awgrymu sustem Ubuntu syml? Fyddai xubuntu'n well?

  • ubuntucymraeg — 2008-03-26 - 18:11:24 GMT 1

    Rwy wedi defnyddio Damn Small Linux a Puppy Linux ar CD byw ar adegau gwahanol, ac wedi eu cael yn hawdd i ddefnyddio. Mae OpenOffice yn dueddol o fod yn eithaf trwm ar RAM felly mae'n dibynnu'n llwyr ar sbec y cyfrifiadur. Os wyt ti ar gysylltiad band eang mae modd i ti lwytho nifer o fersiynau Linux gwahanol lawr a'u llosgi i cd, a thrio rhain ar cd byw i weld beth sy'n gweithio a beth sydd ddim. Mae'n werth cofio bod CD byw yn arafach na SW sydd wedi ei llwytho ar dy gof caled.

    Fluxubuntu
    Mae Fluxubuntu yn cynnig fersiwn ysgafn iawn ac sy'n cynnwys prosesydd geiriau AbiWord, porwr gwe Kazehakase, a rhaglen ebost Claws. Ar fforwm Ubuntu mae un person yn dweud "Fluxbuntu runs at a useable speed on my 10 year old IBM 380XD with 96mb of ram and a 200mhz proc, I run most programs using text based GUI's through screen"... sydd ddim yn swnio'n addawol iawn!

    Damn Small Linux
    Mae DSL yn cynnwys Firefox, a byddai modd i ti lwytho OpenOffice arno, ond fel ddywedes i mae OpenOffice yn drwm ar RAM. Mae modd cyflymu OpenOffice drwy analluogi Java

    Xubuntu
    Penbwrdd Xfce sy'n gyflymach na rhai mwy poblogaidd Linux, sef Gnome a KDE. Rhaglenni Gimp, chwaraewr ffilmiau Totem, Firefox, prosesydd geiriau Abiword. Mae'n rhan o "deulu" Ubuntu sy'n golygu diweddariadau cyson a chymuned gefnogi ardderchog, ond byd yn rhaid i ti lwytho Open Office.

    Puppy Linux

    Mae hwn yn swnio'n addawol i dy ofynion di, yn enwedig Chubby Puppy neu Puppy Office sy'n cynnwys OpenOffice.

    Wedi dweud hyn i gyd dwi ddim yn meddwl y cei di argraff dda iawn o Linux heb gyfrifiadur gweddol, a chofia bod modd i ti lwytho Ubuntu ochr yn ochr gyda Windows os wyt ti am arbrofi go iawn. Pob lwc!

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>


Amdana i

Open Office Cymraeg

The Gimp



Categorïau

Tagiau

Cynghreirio