Llwytho ffeiliau o You Tube
ubuntucymraeg @ 14:12
Wyt ti eisiau cadw copi o dy hoff ffeiliau YouTube ar dy gyfrifiadur? Neu beth am y fideo Sali Mali yna wnaeth ymddangos ar youtube am brynhawn!? Os wyt ti eisiau llwytho ffeiliau YouTube mae modd i ti wneud hynny yn Ubuntu (a systemau Linux eraill) gyda rhaglen youtube-dl.
Defnyddia'r Rheolwr Pecynnau Synaptic i chwilio am a llwytho youtube-dl.

Wedyn cer i You Tube, chwilio am y ffeil, a chopio'r cyfeiriad.

Wedi i ti wneud hyn, agor Terfynell, teipia youtube-dl a chyfeiriad y ffeil rwyt ti am ei chadw, pwysa dychwelyd ac aros i'r ffeil lwytho.

Bydd copi o'r ffeil yn cael ei chadw yn dy gyfeiriadur cartref, a gallu newid ei henw a'i ffeilio ble bynnag rwyt ti eisiau. Mae rhaglenni fel Totem yn chwarae ffeiliau .flv yn Linux.
Tagiau: Ubuntu Cymraeg You+Tube youtube-dl
digg it |
del.icio.us






Sylwadau(2) »
Draigwen — 2007-12-16 - 15:08:49 GMT 1
Wyt ti wed gweld "Miro"? Dw i'n llywtho e neithiwr. (Unfortunately my ability with Welsh ends here - but it's mainly a way to watch videos from rss feeds but also allows you to download them too. Apt install doesn't work though but there are instructions on the Ubuntu forums to get it working)
ubuntucymraeg — 2007-12-22 - 12:07:02 GMT 1
Diolch am hwnna - rwy wedi llwytho Miro drwy Synaptic ac yn mynd i roi cynnig arno.
Hefyd wedi sylweddoli bod ategyn Firefox yn gwneud y gwaith o lwytho ffeiliau o youtube yn hawdd iawn.
Ymateb: