Conky ar Ubuntu!
ubuntucymraeg @ 23:58
Rhaglen fach syml a difyr yw rhaglen Conky sy'n helpu i gadw llygad ar dy system a gweld beth sy'n gwneud beth. Clicia ar y bawdlun i gael gweld hwn ar waith, a darllen mwy os wyt am wybod sut i lwytho hwn yn Ubuntu.
Agor y rheolwr pecynnau synaptig a defnyddia Chwilio i ddod o hyd i Conky.

Wedi i ti lwytho Conky gallu di ei weld ar waith drwy ddefnyddio terfynell a theipio conky. Dyw'r ffenest sy'n agor ddim yn edrych yn addawol ar hyn o bryd!

Mae'n bryd mynd ati i addasu ychydig ar hwn a'i wneud yn fwy deniadol. Y peth cyntaf sydd angen gwneud yw agor terfynell eto, teipio $ gedit /home/(dy enw)/.conkyrc a chopio'r cod yn y blwch fan hyn ar fforwm ubuntu i mewn i'r ffeil, a'i chadw. O ddechrau conky eto drwy derfynell gyda'r gorchymyn $ conky byddi'n gweld rhywbeth sy'n debycach i'r llun cyntaf yn y post hwn.
A nawr mae angen i ti wneud ychydig o waith addasu. Mae'r ffeil wnes i bostio ar fforwm Ubuntu yn cynnwys manylion fy system i, bydd angen i ti ddiddymu neu addasu'r darnau amherthnasol i ti.
Wedyn mae angen ychwanegu Conky at dy ddewisiadau cychwyn fel ei fod yn dechrau bob tro.
Mae hyn yn hawdd iawn i wneud. Cer i System -> Hoffterau -> Sesiynau a clicio ar Ychwanegu. Yn y blwch sy'n agor rho Conky yn y blwch cyntaf, conky yn y blwch canol, a Monitor System yn y blwch gwaelod. Mewn gwirionedd, dim ond bod y gorchymyn conky yn y blwch canol yn iawn, galli di roi beth wyt ti eisiau yn y ddau arall!

Nawr pan wnei di ail gychwyn dy system bydd conky yn rhedeg yn braf fel hyn!

ON Rwy wedi newid y cyfeiriad IP yn y sgrinlun gyda'r Gimp ar gyfer ei ddangos fan hyn. Mae llwyth o themau ayb ar gyfer Conky ar gael yn y drafodaeth ar fforwm Ubuntu.
Tagiau: Conky Ubuntu Cymraeg Monitor System
digg it |
del.icio.us






Un Sylw »
ubuntucymraeg — 2008-03-07 - 00:08:02 GMT 1
Gyda llaw, os wyt ti'n cael problem wrth gael Conky i weithio rwy wedi llwyddo i ddatrys un neu ddau yn y broses o'i lwytho fy hun. Gad neges yn fan hyn ac mi dria i ei ddatrys
Ymateb: