Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Defnyddio RecordMyDesktop

ubuntucymraeg @ 13:08

Rhaglen fach ddefnyddiol sydd yn y cronfeydd meddalwedd yn Ubuntu yw rhaglen Record My Desktop. Defnyddia'r Rheolwr Pecynnau Synaptic i lwytho'r rhaglen a'r rheolwr graffegol.

Wedyn cer i Rhaglenni-> Sain a Fideo -> gtk-recordMYDesktop i gychwyn recordio'r hyn sy'n digwydd ar y penbwrdd. Mae modd i ti ddewis recordio ffenest neu'r sgrin gyfan.

Wedi i ti orffen gallu di atal y recordiad drwy glicio ar y botwm sgwar yn y bar top.

Bydd ffeil o'r enw out.ogg yn ymddangos yn dy blygell cartref a gallu di chwarae neu olygu hon, neu ddefnyddio Mencoder i'w throsi ar gyfer ei llwytho ar YouTube.


Gweld Record My Desktop ar waith gyda gwefan gwyddbwyll.com ar YouTube. Wrth reswm bydd safon y ffeil fideo sydd gen ti ar dy gyfrifiadur yn llawer gwell na'r ffeil sydd wedi ei throsi ar gyfer YouTube.

Tagiau:
digg it | del.icio.us

Sylwadau(2) »

  • Rhys — 2008-04-07 - 10:14:47 GMT 1

    Handi. BUes yn gwglo am rhywbeth tebyg ar gyfer PC.

    Diolch am manwl am opsiynnau Ubuntu ar gyfer hen liniadur gyda llaw (heb gael gafael arno etoi arbrofi).

    Dwi'n dechrau meddwl am ddigwydidadau hoffwn drefnu yn ystod yr wythnos Eisteddfod yng Nghaerdyd yr haf yma. Yn y gorffenol dwi wedi trefnu blog gwrdd, ac hefyd bues yn rhannu stondin gyda Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg llynedd (yn gwisgo fy het jobs-cymraeg.com).

    Mae cysylltiad wi-fi ar y maes yn ddrud ac yn annibyniadwy, felly dwi'n ystyried llogi stafell mewn bar/tafarn gerllaw ble mae wi-fi am ddim.
    Eleni hoffwn trio wthio Wicipedia a chael cyfarfod rhwng rhai o'r golygwyr/gweinyddwyr. Ond hefyd hoffwn gael cyfarfod ehangach o whanol grwpiau diddordeb. Efallai cael siaradwyr i sôn am bethau fel Ububtu.

    Llynedd cawson install ffest (gweddol aflwyddianus, ond hysbysebwyd yn sâl) ar stondin CMC yn dangos sut i Gymreigio'r PC.

    Efallai hoffet ddangos luniau o installfest Ubuntu diweddar y BBC ble mae un gweihtiwr 'cyffredin' yn defnyddio'r sustem am gyfnod ac yna'n adrodd yn ôl ei brofiadau:
    http://www.bbc.co.uk/blogs/bbcinternet/2008/04/pic_of_the_day_installfest.html
    http://www.bbc.co.uk/blogs/bbcinternet/2008/02/ubuntu_installfest.html
    Testun cofnod i'r blog?

  • ubuntucymraeg — 2008-04-07 - 21:21:49 GMT 1

    Doeddwn i ddim yn gwybod am installfest Ubuntu diweddar y BBC, diolch am y wybodaeth. Testun postiad yn y dyfodol (mae Ebrill prysur ofnadwy gen i). Mae hefyd yn werth nodi fod Grwp Defnyddwyr Linux i gael o fewn cyrraedd i'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, ac mae'r rhain yn cynnal sesiynau sefydlu Linux yn rheolaidd: mae gwybodaeth amdanyn nhw fan hyn: lug Cymru.

    O safbwynt y Steddfod mae'n lle gwych i hyrwyddo syniadau a meddalwedd Cymraeg hen a newydd.

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>


Amdana i

Open Office Cymraeg

The Gimp



Categorïau

Tagiau

Cynghreirio