Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Newid Thema

ubuntucymraeg @ 14:12

Os wyt ti wedi blino edrych ar yr un hen sgrin beth am fynd ati i newid thema, eiconau a chefndir penbwrdd i rywbeth ychydig yn fwy cyffrous a deniadol. Mae'n broses hawdd iawn yn Ubuntu o ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.

Byddaf yn defnyddio'r canlynol i greu penbwrdd a thema tebyg i'r rhai yn y sgrinluniau isod, felly mae angen llwytho'r 3 pecyn hyn i dy gyfrifiadur.

Clicia ar y bawdlun am lun maint llawn o'r thema ar waith.

Thema Moomex Thema Moomex

Y peth cyntaf i wneud yw cadw dy thema gyfredol rhag ofn dy fod eisiau ei defnyddio eto. Cer i System-> Hoffterau-> Appearance, clicia ar y thema a'i chadw gyda Save As.

Wedyn bydd angen llwytho'r thema newydd, y cefndir penbwrdd newydd, a'r eiconau drwy ddefnyddio'r cyfarwyddiadau hyn.

I roi eicon Bin Sbwriel ac eiconau defnyddiol eraill ar y penbwrdd dilyn y cyfarwyddiadau hyn:

  • Alt-F2 i weithredu rhaglen
  • Teipio gconf-editor a phwyso enter
  • Yn y Golygydd Cyfluniad cer i apps \ nautilus \ desktop
  • Ticia'r blychau priodol a chau'r Golygydd Cyfluniad

Os wyt ti'n defnyddio Ubuntu 8.04 ac yn cael allbwn rhyfedd weithiau wrth ddefnyddio terfynell ar ȏl llwytho'r thema, gwna hyn:

  • Agor terfynell
  • Teipia  gedit /home/defnyddiwr/.themes/Moomex/gtk-2.0/gtkrc gan roi dy enw defnyddiwr di yn lle defnyddiwr!
  • Yn y llinell gtk-icon-sizes mae angen rhoi ':' yn lle '\n' fel ei fod yn edrych fel hyn - "panel-menu=24,24:panel=20,20:gtk-button=18,18:gtk-large-toolbar=24,24"

Pob lwc gyda'r thema - mae miloedd o rai eraill ar gael ar y we.

Tagiau:
digg it | del.icio.us

Dim sylwadau hyd yma. »

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>


Amdana i

Open Office Cymraeg

The Gimp



Categorïau

Tagiau

Fy Nhagiau

Cynghreirio