Rhoi eiconau system ar y Bwrdd Gwaith
ubuntucymraeg @ 14:23
Mae llwytho eiconau rhaglenni ar Fwrdd Gwaith Ubuntu yn hawdd. Yr unig beth sydd angen gwneud yw mynd at y ddewislen, cael gafael yn y rhaglen, a gyda chlic dde dewis Ychwanegu'r lansiwr yna at y bwrdd gwaith.
Mae'r broses ychydig yn wahanol os am roi eiconau'r system ar y Bwrdd Gwaith - pethau fel bin sbwriel, cyfeiriadur cartref ayb.
I wneud hyn dilyn y cyfarwyddiadau canlynol:
- Alt-F2 i weithredu rhaglen
- Teipio gconf-editor a phwyso enter
- Yn y Golygydd Cyfluniad cer i apps \ nautilus \ desktop
- Ticia'r blychau priodol a chau'r Golygydd Cyfluniad
Tagiau: Ubuntu+Cymraeg eicon+sbwriel penbwrdd bwrdd+gwaith eicon+cartref
digg it |
del.icio.us






Dim sylwadau hyd yma. »
Ymateb: