Google Earth ar Ubuntu
ubuntucymraeg @ 10:39
![]() |
Os wyt ti wedi gweld Google Earth ar waith ac eisiau llwytho hwn ar dy gyfrifiadur Ubuntu dilyn y cyfarwyddiadau hyn. Rwy'n mynd i ddefnyddio Cronfeydd Meddalwedd Ubuntu yn hytrach na phecyn o wefan Google, oherwydd bydd yn golygu bod Google Earth yn cael ei ddiweddaru'n gyson drwy Update Manager, a bod cefnogaeth cymuned Ubuntu (Medibuntu) i'r fersiwn rwyt ti'n defnyddio. |
Y peth cyntaf yw edrych ar y Cronfeydd Meddalwedd i weld os yw Medibuntu wedi ei restru. Cer i System-> Gweinyddiaeth-> Software Sources a chlicio ar y tab Third-Party Software. Os wyt ti'n defnyddio cronfa Medibuntu yna bydd rhywbeth tebyg i hyn i'w weld gyda thic wrth ei ochr:
http://packages.medibuntu.org/hardy (free non-free)
Os nag yw yno, mae angen ychwanegu'r gronfa trwy ddilyn y cyfarwyddiadau sydd ar wefan gefnogi Ubuntu.
Mae angen mynd ati i lwytho pecynnau Google Earth wedyn drwy'r Rheolwr Pecynnau Synaptig. Teipia google i'r blwch chwilio ac wedi i ti gael gafael ym mhecyn Google Earth rho glec i lwytho hwn. Bydd y system yn dweud bod angen pecynnau eraill, a thicia iawn bob tro.
Nawr rwyt ti'n barod i redeg y rhaglen drwy ddewislen Rhaglenni-> Rhyngrwyd-> Google Earth.
Dyma fideo byr grewyd drwy ddefnyddio Record My Desktop a Mencoder i ddangos Google Earth ar waith ar gyfrifiadur Ubuntu.
Tagiau: Ubuntu+Cymraeg Google+Earth Linux Medibuntu Mencoder Record+My+Desktop
digg it |
del.icio.us







Dim sylwadau hyd yma. »
Ymateb: