Diogelu Ubuntu
ubuntucymraeg @ 15:46
Gan fod llawer o son am pa mor ddiogel yw Ubuntu (a Linux yn gyffredinol) o'i gymharu â Windows, mae defnyddwyr sy'n newydd i Ubuntu yn dueddol o sefydlu'r system ac anghofio am ddiogelwch, gan dderbyn bod eu cyfrifiadur yn gwbwl ddiogel. I raddau mae hyn yn wir, ond os ei di ati i addasu dy system, er enghraifft drwy sefydlu OpenSSH i rannu ffeiliau, mae'n bwysig deall rhywbeth am ddiogelwch.
1 Firws a Mwydod
Dyw system Ubuntu ddim yn cynnwys rhaglenni neu feddalwedd gwrth-firws yn ddiofyn. Yn 2005 roedd cwmni Sophos yn nodi bod eu cynnyrch yn amddiffyn Windows rhag 103,000 firws gwahanol. Ers creu Linux nol ar ddechrau'r 1990au mae llai na 50 firws wedi effeithio ar y system, ac fe gafodd rhain eu dofi'n syth drwy addasu ychydig ar y cod a rhyddhau diweddariad. Does dim un firws all effeithio ar Linux yn weithredol neu "yn dal yn wyllt" ar hyn o bryd.
Serch hynny mae rhai defnyddwyr Ubuntu yn defnyddio meddalwedd gwrth-firws er mwyn darganfod firws allai gael ei drosglwyddo i gyfrifiadur Windows. Ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd mae pecyn rhad ac am ddim gan Avast, ac mae ClamAV ac Aegis Virus Scanner yn rhan o Gronfeydd Meddalwedd Ubuntu.
Does dim angen y meddalwedd hyn ar gyfrifiaduron Ubuntu onibai dy fod am redeg rhaglenni Windows gyda Crossover, Wine neu becyn rhithiol arall, neu am redeg gweinydd ebost.
2. Mur Cadarn
Yr enw ar y mur cadarn sy'n cael ei sefydlu ar bob sytem Ubuntu a llawer o systemau Linux eraill yw iptables. Mae'n cael ei sefydlu'n ddiofyn (hynny yw gyda'r system). Pan fyddi di'n sefydlu Ubuntu does dim porth ar dy gyfrifiadur yn agored, ac felly does dim rheolau yn cael eu gosod ar y mur cadarn. Mae'r mur cadarn felly, i bob pwrpas, yn gwneud dim, oherwydd nad oes angen iddo fod yn weithredol gan fod dy system yn ddiogel.
Serch hynny, os ei di ati i addasu dy system efallai y bydd angen i ti newid rheolau'r mur cadarn. Mae iptables yn gymhleth, a gellir ond ei addasu drwy ddefnyddio terfynell . Oherwydd hyn mae nifer o raglenni graffegol wedi cael eu datblygu sy'n gwneud gweinyddu'r mur cadarn yn hawdd iawn.
Mae'r rhain yn syrthio rhwng dwy stôl. Y rhaglen mwyaf poblogaidd yw Firestarter, ond mae'n edrych fel petai'r prosiect hwn yn dirwyn i ben yn fuan. Y rhaglen newydd fydd yn dod yn bobolgaidd ac yn rhan o system Ubuntu yn y dyfodol yw ufw, gyda rhyngwyneb graffegol gufw.
Os wyt ti eisiau addasu dy system byddwn yn argymell sefydlu a defnyddio Firestarter am y tro. Bydd ufw yn dod yn rhan o fersiwn nesaf Ubuntu (8.10) yn yr hydref, a gelli gael gwared ar Firestarter a newid dy system i ufw bryd hynny.
Dyma sut mae sefydlu a defnyddio Firestarter.
Tagiau: Ubuntu+Cymraeg Diogelwch Mur+Cadarn Firestarter iptables gufw
digg it |
del.icio.us






Dim sylwadau hyd yma. »
Ymateb: