Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Rhannu argraffydd dros rwydwaith ddiwifr

ubuntucymraeg @ 20:15

Mewn sefyllfa pan fod gen ti un cyfrifiadur wedi'i gysylltu ag argraffydd, ac un neu fwy o gyfrifiaduron sy'n cysylltu â rhwydwaith drwy ddefnyddio llwybrydd diwifr, gall fod yn ddefnyddiol weithiau i rannu'r argraffydd. Mae hyn yn dy atal rhag gorfod symud ffeiliau i'r prif gyfrifiadur i'w hargraffu. Dyma sut mae gwneud hyn yn Ubuntu.

Yn yr enghraifft hon byddaf yn galw'r cyfrifiadur sydd wedi cysylltu i'r argraffydd yn "prif gyfrifiadur", a'r un rwyt ti eisiau cysylltu ag argraffydd yn ddiwifr yn "gliniadur".

Ar y gliniadur cer i  System-> Gweinyddiaeth -> Yn argraffu a rho glec i'r blwch Show printers shared by other systems:

Ar y prif gyfrifiadur cer i  System-> Gweinyddiaeth -> Yn argraffu a rho glec i'r blwch Share published printers connected to this system:

Rho gynnig ar argraffu o'r gliniadur. Dylai weithio'n ddidrafferth.

Os wyt ti'n cael problem cer eto ar y gliniadur i System-> Gweinyddiaeth -> Yn argraffu a rho glec i'r blwch Goto Server. Yn y blwch sy'n ymddangos rho gyfeiriad IP y cyfrifiadur rwyt ti eisiau cysylltu ag ef gan ychwanegu porth 631 fel yn y llun isod. Rho enw defnyddiwr y cyfrifiadur rwyt ti eisiau cysylltu ag ef a dy gyfrinair pan fydd yn gofyn amdano. Mae manylion pellach am gyfeiriadau IP yng Ngham 2 post blaenorol ar Open SSH.

Os wnes di lwytho Mur Cadarn fel Firestarter efallai y bydd yn ceisio dy atal rhag cysylltu, a bydd angen ychwanegu rheol. Agor rhyngwyneb graffegol Firestarter, ac o dan Events mi weli di'r gliniadur yn cael ei atal. Rho glec dde i'r broses a dewis ei chaniatáu.

Dylet fedru agraffu ffeiliau wedyn dros rwydwaith diwifr.

Tagiau:
digg it | del.icio.us

Dim sylwadau hyd yma. »

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>


Amdana i

Open Office Cymraeg

The Gimp



Categorïau

Tagiau

Fy Nhagiau

Cynghreirio