Rhedeg system rithiol gyda Virtualbox
ubuntucymraeg @ 16:24
Os wyt ti eisiau arbrofi gyda systemau gweithredu gwahanol heb orfod mynd i'r drafferth o rannu gyriant, mae Virtualbox yn cynnig ffordd hawdd iawn o wneud hyn. Dyma lun o Mandriva One 2008 yn rhedeg yn virtualbox-ose ar system Ubuntu.
Mae modd i ti lwytho amryw o systemau gwahanol drwy Virtualbox, gan gynnwys y prif fersiynau o Linux a Windows XP. Mae'n bwysig nodi bod yr un materion diogelwch yn codi wrth redeg system rithiol a phetaet ti'n llwytho'r system ar dy beiriant.
Mae dau fersiwn o Virtualbox, sef un côd agored ac un perchenogol, gyda'r ddau yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cynnal gan Sun Microsystems.
Os wyt ti ar Ubuntu mae modd i ti lwytho'r fersiwn côd agored drwy'r Rheolwr Pecynnau Synaptig drwy chwilio am becyn o'r enw virtualbox-ose.
Dyma ddolenni i wefannau gyda chyfarwyddiadau ar sut i lwytho Virtualbox, a llwytho systemau gweithredu eraill wedyn.
Wiki Cymuned Ubuntu | Blog defnyddiol | Fforwm Ubuntu
Tagiau: Ubuntu+Cymraeg Virtualbox system+rithiol Mandriva+One+2008
digg it |
del.icio.us






Dim sylwadau hyd yma. »
Ymateb: