Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Porwr Opera Cymraeg

ubuntucymraeg @ 11:29

Diolch i griw Meddal mae'r fersiwn ddiweddaraf o'r porwr gwe Opera ar gael yn y Gymraeg. Mae'r broses o lwytho hwn ar Ubuntu yn hawdd:

Opera Cymraeg

Llwytha'r pecyn Linux o wefan Opera a'i gadw yn rhywle cyfleus. Mae'n dod fel pecyn .deb a bydd angen i ti roi clic dwbwl i'r pecyn a dilyn y cyfarwyddiadau i'w sefydlu.

Llwytha'r pecyn iaith Cymraeg o wefan Meddal a'i gadw yn rhywle cyfleus. Wedyn rho glec dde i'r pecyn a'i echdynnu.

Copia'r ffeil Cymraeg (welsh.lng) i mewn i ffolder /usr/share/opera/locale. Os wyt ti'n yn cael problem caniatad wrth wneud hyn (fel y gwnes i), copia'r ffeil i'r cyfeiriadur Cartref / Home. Agor terfynell a theipio sudo cp welsh.lng /usr/share/opera/locale a chyflwyno cyfrinair pan fydd yn gofyn.

Wedyn agor Opera a dilyn y cyfarwyddiadau o wefan Opera.

Mae Opera yn borwr cyflym iawn, ac mae ganddo nifer o nodweddion blaengar sydd nawr yn cael eu copio gan eraill, fel y syniad o ddeialu cyflym:

Deialu Cyflym yn Opera

Tagiau:
digg it | del.icio.us

Dim sylwadau hyd yma. »

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>


Amdana i

Open Office Cymraeg

The Gimp



Categorïau

Tagiau

Fy Nhagiau

Cynghreirio