Ubuntu Cymraeg http://ubuntucymraeg.nireblog.com Gwefan Gymraeg am Ubuntu, y fersiwn poblogaidd o Linux. Fri, 16 May 2008 11:11:59 +0100 Ubuntu Cymraeg http://ubuntucymraeg.nireblog.com/imagenes/logo.png http://ubuntucymraeg.nireblog.com 109 http://nireblog.com Defnyddio RecordMyDesktop http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/04/06/defnyddio-recordmydesktop#comment-119 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/04/06/defnyddio-recordmydesktop#comment-119 ubuntucymraeg Doeddwn i ddim yn gwybod am installfest Ubuntu diweddar y BBC, diolch am y wybodaeth. Testun postiad yn y dyfodol (mae Ebrill prysur ofnadwy gen i). Mae hefyd yn werth nodi fod Grwp Defnyddwyr Linux i gael o fewn cyrraedd i'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, ac mae'r rhain yn cynnal sesiynau sefydlu Linux yn rheolaidd: mae gwybodaeth amdanyn nhw fan hyn: lug Cymru.

O safbwynt y Steddfod mae'n lle gwych i hyrwyddo syniadau a meddalwedd Cymraeg hen a newydd.

]]>
Mon, 07 Apr 2008 21:21:49 +0100
Defnyddio RecordMyDesktop http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/04/06/defnyddio-recordmydesktop#comment-118 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/04/06/defnyddio-recordmydesktop#comment-118 Rhys Handi. BUes yn gwglo am rhywbeth tebyg ar gyfer PC.

Diolch am manwl am opsiynnau Ubuntu ar gyfer hen liniadur gyda llaw (heb gael gafael arno etoi arbrofi).

Dwi'n dechrau meddwl am ddigwydidadau hoffwn drefnu yn ystod yr wythnos Eisteddfod yng Nghaerdyd yr haf yma. Yn y gorffenol dwi wedi trefnu blog gwrdd, ac hefyd bues yn rhannu stondin gyda Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg llynedd (yn gwisgo fy het jobs-cymraeg.com).

Mae cysylltiad wi-fi ar y maes yn ddrud ac yn annibyniadwy, felly dwi'n ystyried llogi stafell mewn bar/tafarn gerllaw ble mae wi-fi am ddim.
Eleni hoffwn trio wthio Wicipedia a chael cyfarfod rhwng rhai o'r golygwyr/gweinyddwyr. Ond hefyd hoffwn gael cyfarfod ehangach o whanol grwpiau diddordeb. Efallai cael siaradwyr i sôn am bethau fel Ububtu.

Llynedd cawson install ffest (gweddol aflwyddianus, ond hysbysebwyd yn sâl) ar stondin CMC yn dangos sut i Gymreigio'r PC.

Efallai hoffet ddangos luniau o installfest Ubuntu diweddar y BBC ble mae un gweihtiwr 'cyffredin' yn defnyddio'r sustem am gyfnod ac yna'n adrodd yn ôl ei brofiadau:
http://www.bbc.co.uk/blogs/bbcinternet/2008/04/pic_of_the_day_installfest.html
http://www.bbc.co.uk/blogs/bbcinternet/2008/02/ubuntu_installfest.html
Testun cofnod i'r blog?

]]>
Mon, 07 Apr 2008 10:14:47 +0100
Hen Gyfrifiaduron - Damn Small Linux http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/07/02/hen-gyfrifiaduron-damn-small-linux#comment-115 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/07/02/hen-gyfrifiaduron-damn-small-linux#comment-115 ubuntucymraeg Rwy wedi defnyddio Damn Small Linux a Puppy Linux ar CD byw ar adegau gwahanol, ac wedi eu cael yn hawdd i ddefnyddio. Mae OpenOffice yn dueddol o fod yn eithaf trwm ar RAM felly mae'n dibynnu'n llwyr ar sbec y cyfrifiadur. Os wyt ti ar gysylltiad band eang mae modd i ti lwytho nifer o fersiynau Linux gwahanol lawr a'u llosgi i cd, a thrio rhain ar cd byw i weld beth sy'n gweithio a beth sydd ddim. Mae'n werth cofio bod CD byw yn arafach na SW sydd wedi ei llwytho ar dy gof caled.

Fluxubuntu
Mae Fluxubuntu yn cynnig fersiwn ysgafn iawn ac sy'n cynnwys prosesydd geiriau AbiWord, porwr gwe Kazehakase, a rhaglen ebost Claws. Ar fforwm Ubuntu mae un person yn dweud "Fluxbuntu runs at a useable speed on my 10 year old IBM 380XD with 96mb of ram and a 200mhz proc, I run most programs using text based GUI's through screen"... sydd ddim yn swnio'n addawol iawn!

Damn Small Linux
Mae DSL yn cynnwys Firefox, a byddai modd i ti lwytho OpenOffice arno, ond fel ddywedes i mae OpenOffice yn drwm ar RAM. Mae modd cyflymu OpenOffice drwy analluogi Java

Xubuntu
Penbwrdd Xfce sy'n gyflymach na rhai mwy poblogaidd Linux, sef Gnome a KDE. Rhaglenni Gimp, chwaraewr ffilmiau Totem, Firefox, prosesydd geiriau Abiword. Mae'n rhan o "deulu" Ubuntu sy'n golygu diweddariadau cyson a chymuned gefnogi ardderchog, ond byd yn rhaid i ti lwytho Open Office.

Puppy Linux

Mae hwn yn swnio'n addawol i dy ofynion di, yn enwedig Chubby Puppy neu Puppy Office sy'n cynnwys OpenOffice.

Wedi dweud hyn i gyd dwi ddim yn meddwl y cei di argraff dda iawn o Linux heb gyfrifiadur gweddol, a chofia bod modd i ti lwytho Ubuntu ochr yn ochr gyda Windows os wyt ti am arbrofi go iawn. Pob lwc!

]]>
Wed, 26 Mar 2008 18:11:24 +0100
Hen Gyfrifiaduron - Damn Small Linux http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/07/02/hen-gyfrifiaduron-damn-small-linux#comment-114 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/07/02/hen-gyfrifiaduron-damn-small-linux#comment-114 Rhys Dwi'n gobeithio etifeddu hen (hen hen) liniadur o'r gwaith. Ddim yn siwr o'i spec eto, ond mae o leiaf 10 mlwydd oed. Meddwl arbrofi gyda Linux. dwi heb fentro o'r blaen - Hoffwn osod Firefox (sy'n dod gyda fo ta beth) ac hefyd OpenOffice arno. Fyddai DSL yn addas ti'n meddwl, neu alli di awgrymu sustem Ubuntu syml? Fyddai xubuntu'n well?

]]>
Wed, 26 Mar 2008 18:07:38 +0100
Conky ar Ubuntu! http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/03/06/conky-ar-ubuntu#comment-92 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/03/06/conky-ar-ubuntu#comment-92 ubuntucymraeg Gyda llaw, os wyt ti'n cael problem wrth gael Conky i weithio rwy wedi llwyddo i ddatrys un neu ddau yn y broses o'i lwytho fy hun. Gad neges yn fan hyn ac mi dria i ei ddatrys

]]>
Fri, 07 Mar 2008 00:08:02 +0100
Llwytho ffeiliau o You Tube http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/11/25/llwytho-ffeiliau-o-you-tube#comment-73 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/11/25/llwytho-ffeiliau-o-you-tube#comment-73 ubuntucymraeg Diolch am hwnna - rwy wedi llwytho Miro drwy Synaptic ac yn mynd i roi cynnig arno.

Hefyd wedi sylweddoli bod ategyn Firefox yn gwneud y gwaith o lwytho ffeiliau o youtube yn hawdd iawn.

]]>
Sat, 22 Dec 2007 12:07:02 +0100
Logo Ubuntu Cymru http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/06/21/logo-ubuntu-cymru#comment-67 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/06/21/logo-ubuntu-cymru#comment-67 Thomas Dw i'n hoffi'r syniad, ond mae'r fap yn rhy cymhleth, dw i'n meddwl. Beth am pen draig?

]]>
Sun, 16 Dec 2007 22:01:07 +0100
Llwytho ffeiliau o You Tube http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/11/25/llwytho-ffeiliau-o-you-tube#comment-66 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/11/25/llwytho-ffeiliau-o-you-tube#comment-66 Draigwen Wyt ti wed gweld "Miro"? Dw i'n llywtho e neithiwr. (Unfortunately my ability with Welsh ends here - but it's mainly a way to watch videos from rss feeds but also allows you to download them too. Apt install doesn't work though but there are instructions on the Ubuntu forums to get it working)

]]>
Sun, 16 Dec 2007 15:08:49 +0100
Rhagair http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/06/15/rhagair#comment-47 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/06/15/rhagair#comment-47 ubuntucymraeg Mae hwn yn fan cychwyn. Mae hwn ychydig yn fwy manwl - anwybydda'r adran ar sut i sefydlu XP.

]]>
Sun, 19 Aug 2007 11:48:42 +0100
Rhagair http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/06/15/rhagair#comment-45 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/06/15/rhagair#comment-45 blewyn Oes gen ti gyswllt defnyddiol ar y pwnc o droi sustem WinXP yn sustem aml-weithredol XP ag Ubuntu ?

]]>
Mon, 13 Aug 2007 13:08:24 +0100
Hen Gyfrifiaduron - Damn Small Linux http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/07/02/hen-gyfrifiaduron-damn-small-linux#comment-31 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/07/02/hen-gyfrifiaduron-damn-small-linux#comment-31 Mei Mae Slax yn reit dda hefyd.

]]>
Tue, 03 Jul 2007 20:08:00 +0100
Ysgrifennu i ddisg allanol ntfs http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/06/25/ysgrifennu-i-ddisg-allanol-ntfs#comment-30 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/06/25/ysgrifennu-i-ddisg-allanol-ntfs#comment-30 jfw Mae hyn yn handi iawn. Mi brynais i MyBook er mwyn symud stwff rhwng y cyfrifiaduron, a fel 'back-up'. Mi ges i lot o broblemau ar y cychwyn. Doedd y system ddim yn caniatau i mi ysgrifennu iddo fo.

Y ffordd wnes i ddatry y broblem yw:

sudo chmod 777 'y llwybr i MyBook'

]]>
Mon, 02 Jul 2007 20:23:57 +0100
Blogiwr newydd ar Ubuntu Cymraeg http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/06/15/blogiwr-newydd-ar-ubuntu-cymraeg#comment-29 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/06/15/blogiwr-newydd-ar-ubuntu-cymraeg#comment-29 ubuntucymraeg Diolch i Rhoslyn Prys am y wybodaeth. Does gen i ddim Wine wedi ei sefydlu felly does gen i ddim modd o'u profi. Ond rwy am ddilyn y cyfarwyddiadau a phostio fan hyn pan gaf gyfle. Un pwynt bach ond pwysig: Mae modd llwytho Wine drwy ddefnyddio Automatix2 - dim ond clicio ac mae'r rhaglen yn gwneud y gweddill. Felly am wn i does dim angen mynd drwy camau 1, 2 a 3 o gyfarwyddiadau Rhys Jones.

]]>
Wed, 20 Jun 2007 21:29:27 +0100
Blogiwr newydd ar Ubuntu Cymraeg http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/06/15/blogiwr-newydd-ar-ubuntu-cymraeg#comment-28 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/06/15/blogiwr-newydd-ar-ubuntu-cymraeg#comment-28 Rhoslyn Prys Mae JFW wedi bod mewn cysylltiad ynglŷn â rhedeg Cysgliad ar Ubuntu. Rwyf wedi anfon ato gyfarwyddiadau Rhys Jones ar sut mae rhedeg Cysgliad ar Linux (Fedora Core 3). Dwi di gosod y cyfarwyddiadau ar dudalen Projectau Meddal.com fel bod modd i bobl eraill eu gweld. Mae'r cyfarwyddiadau braidd yn hen ond gobeithio bod modd defnyddio Cysgliad yn Ubuntu. Hwyl!

]]>
Tue, 19 Jun 2007 21:07:32 +0100
Rhagair http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/06/15/rhagair#comment-27 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/06/15/rhagair#comment-27 ubuntucymraeg Diolch i JFW am gyfrannu i'r blog. Mae croeso i ddefnyddwyr Ubuntu eraill i gael cyfri i flogio fan hyn. Dim ond defnyddio'r ffurflen gysylltu i wneud cais sydd angen.

]]>
Fri, 15 Jun 2007 13:46:23 +0100
Nelson Mandela yn esbonio ystyr y term Ubuntu http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/06/11/nelson-mandela-yn-esbonio-ystyr-y-term-ubuntu#comment-26 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/06/11/nelson-mandela-yn-esbonio-ystyr-y-term-ubuntu#comment-26 ubuntucymraeg Mae angen blog technoleg fel yn yr un Gwyddelig. Does dim rhaid i ni ddilyn patrwm eraill serch hynny, gan fod diwylliant pob gwlad (iaith) yn wahanol, gellid addasu'r gwobrau i adlewyrchu hyn. Blog barddoniaeth Gymraeg? Blog cefn gwlad Cymraeg?

]]>
Thu, 14 Jun 2007 11:03:58 +0100
Nelson Mandela yn esbonio ystyr y term Ubuntu http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/06/11/nelson-mandela-yn-esbonio-ystyr-y-term-ubuntu#comment-25 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/06/11/nelson-mandela-yn-esbonio-ystyr-y-term-ubuntu#comment-25 sanddef Oes gen ti syniadau ar gyfer y Welsh Blog Awards 2007?

]]>
Thu, 14 Jun 2007 03:35:54 +0100
Effeithiau 3D: Beryl (Ubuntu) http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/13/effeithiau-3d-beryl-ubuntu#comment-22 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/13/effeithiau-3d-beryl-ubuntu#comment-22 ubuntucymraeg Mae popeth yn arafach o lawer ar y cd byw. Ond os wyt ti'n sefydlu ubuntu ac yn canfod bod y broblem yn parhau, mae addasu ychydig ar dy ffeil xorg.conf yn gallu trwsio hyn. Mae'r trydydd post fan hyn yn cynnig ateb.

]]>
Sat, 26 May 2007 07:53:48 +0100
Effeithiau 3D: Beryl (Ubuntu) http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/13/effeithiau-3d-beryl-ubuntu#comment-21 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/13/effeithiau-3d-beryl-ubuntu#comment-21 Huw+Waters Dwi di cael gafael ar CD Byw ar gyfer Mac, un o'r pethau mwyaf annoying am ei wneud, yw fod y tracpad ar y gliniadur yn araf iawn! Byse bosib ei gyflymu yn default? :-)

]]>
Fri, 25 May 2007 23:18:28 +0100
Creu rhestr o galedwedd y cyfrifiadur http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/23/creu-rhestr-o-galedwedd-y-cyfrifiadur#comment-20 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/23/creu-rhestr-o-galedwedd-y-cyfrifiadur#comment-20 Huw Waters Dwi'n reit ddig na dim ond Apple sy'n ei wneud i raddau hyd yn hyn, ond y ffordd ymlaen yw gosod EFI (Enhanced Firmware Interface) mwy cynhwysfawr, fel nad oes angen meddalwedd ar OS redeg y caledwedd. Gad y caledwedd i redeg ac uwchraddio'i hun a gwneud i ffwrdd gyda 'drivers'.

]]>
Wed, 23 May 2007 17:45:27 +0100
5 rheswm dros ddewis Ubuntu yn lle Windows http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/22/5-rheswm-dros-ddewis-ubuntu-yn-lle-windows#comment-19 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/22/5-rheswm-dros-ddewis-ubuntu-yn-lle-windows#comment-19 ubuntucymraeg Cytuno'n llwyr a hyn. Mae Ubuntu yn rhoi'r dewis i'r defnyddiwr i reoli ei gyfrifiadur, neu jyst ei ddefnyddio heb orfod ffidlan o gwbwl.

Ti'n iawn - o mhrofiad i dyma'r linux cyntaf i weithio allan o'r bocs. Trio pwysleisio bod gen ti ddewis i neud fel ti eisiau gyda'r system o'n i, ond nes i anghofio nodi nad oes angen gwneud dim byd mewn gwirionedd, just llwytho a defnyddio.

]]>
Wed, 23 May 2007 08:02:00 +0100
5 rheswm dros ddewis Ubuntu yn lle Windows http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/22/5-rheswm-dros-ddewis-ubuntu-yn-lle-windows#comment-18 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/22/5-rheswm-dros-ddewis-ubuntu-yn-lle-windows#comment-18 Mei Un rheswm arall: beryl.

Rhaid bod yn ofalus gyda'r ail bwynt - dim pawb sydd am fod yn fecanic, mae llawer jyst isho car i fynd nol a mlaen i'r gwaith.

Ond ar yr llaw arall, mae Ubuntu yn gweithio'n syth (Just Works™) allan o'r bocs, heb orfod ffidlan efo gyrrwyr i'r argraffwyr, setio'r rhwydwaith fyny ayyb.

Gwelodd fy Ubuntu bopeth ar y cyfrifiadur heb i fi orfod gwneud dim. O'n i ar Firefox o fewn munuduau o logio mlaen am y tro cyntaf.

]]>
Tue, 22 May 2007 22:37:09 +0100
Effeithiau 3D: Beryl (Ubuntu) http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/13/effeithiau-3d-beryl-ubuntu#comment-17 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/13/effeithiau-3d-beryl-ubuntu#comment-17 ubuntucymraeg Helo! Na does dim angen prosesydd dual core i gael y penbwrdd 3D i weithio. Mae'n dibynnu ar gael cerdyn graffeg gweddol newydd. Mae cymuned Ubuntu yn creu gyrrwyr drwy reverse engineering i sicrhau bod gyrrwyr ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o gardiau NVIDIA (dyna sydd gen i yn y llun hwn) ac ATI, a llawer o rai eraill. Mae'r cwmniau hyn yn dechrau deffro hefyd a chreu gyrrwyr ar gyfer Ubuntu, yn enwedig nawr bod Dell wedi penderfynu gwerthu cyfrifiaduron gydag Ubuntu wedi sefydlu arnyn nhw.

Erbyn Ubuntu 7.04 (a 6.10 i raddau) mae cael 3D i weithio i fod yn gymharol hawdd. Gan mai dim ond meddalwedd rhydd sy'n dod gyda'r pecyn bydd angen llwytho'r gyrrwyr perchnogol ar gyfer y cerdyn graffeg - ond mae System-> Gweinyddiaeth-> Restricted Managers Driver yn gwneud hyn drosot ti yn Ubunutu 7.04.

Os ti angen cd ubuntu i chwarae heb orfod llwytho 700 mb anfon neges drwy ffurflen y blog hwn, mae gen i rai'n sbar - yr unig beth sydd angen nodi yw os yw dy system yn 64 bit neu beidio. Mae modd llwytho Ubuntu bwt deuol ar beiriant Mac Afal, ac mae adran arbennig o'r fforwm ar gyfer defnyddwyr Mac.

]]>
Tue, 22 May 2007 08:37:50 +0100
Effeithiau 3D: Beryl (Ubuntu) http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/13/effeithiau-3d-beryl-ubuntu#comment-14 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/13/effeithiau-3d-beryl-ubuntu#comment-14 Huw Waters Edrych yn ddeniadol iawn! Sut mae hyn yn gweithio? Ydio'r dibynnu ar brosesydd dual-core, fel mae Core animation am ei wneud yn Apple OS X Leopard?

]]>
Sun, 20 May 2007 22:50:43 +0100
Creu Llwybr Tarw (Llwybr Byr) at raglen http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/15/creu-llwybr-tarw-llwybr-byr-at-raglen#comment-13 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/15/creu-llwybr-tarw-llwybr-byr-at-raglen#comment-13 ubuntucymraeg Diolch am y sylw. Dwi ddim yn arbenigwr, ond os fedra i helpu mewn unrhyw ffordd gyda dy brofiad Ubuntu rho wybod... :)

]]>
Tue, 15 May 2007 23:31:52 +0100
Creu Llwybr Tarw (Llwybr Byr) at raglen http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/15/creu-llwybr-tarw-llwybr-byr-at-raglen#comment-12 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/15/creu-llwybr-tarw-llwybr-byr-at-raglen#comment-12 Mei Duw, da di hwn!

Does na'm llawer o flogs Cymraeg am dechnoleg, dwi'n falch o weld y nifer yn cynyddu.

Mae gen i Ubuntu 6 ar y desktop, ochr yn ochr a WinXP. Dwi'm yn ei ddefnyddio llawer mwyach, mae gen i laptop sy'n fwy hwylus. Ond dwi'n dipio mewn bob hyn a hyn, i gael chwarae efo'r command line.

Un arall i Bloglines!

]]>
Tue, 15 May 2007 22:48:43 +0100
Newid iaith y system i'r Gymraeg http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/02/newid-iaith-y-system-ir-gymraeg#comment-8 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2007/05/02/newid-iaith-y-system-ir-gymraeg#comment-8 Dewi Wrth gwrs mae'n bosib i PC Ubuntu weithredu'n amlieithog - fedrwch dewis eich iaith o'r sgrin mewngofnodi. Rywbeth nad yw XP Cymraeg yn gallu cynnig (heb Canolfan Rheoli Iaith y Bwrdd)

Rydyn ni'n defnyddio Ubuntu Cymraeg yng Nghanolfan Bedwyr. Hawdd i'w ddeall ac yn hawdd iawn i'w gadw'n diweddar ayb Dwi'n defnyddio Ubuntu Cymraeg ar fy MacBook personol hefyd diolch i VMWare.

Yn y newyddion yn diweddar roedd Dell wedi cyhoeddi eu bod am werthu PCs gyda Ubuntu

http://news.bbc.co.uk/2/hi/business/6610901.stm

Felly (gobeithio) bydd Dell yn gwerthu PCs Cymraeg(/ddwyieithog) 'out of the box' o hyn ymlaen.

]]>
Thu, 03 May 2007 00:12:55 +0100