Ubuntu Cymraeg http://ubuntucymraeg.nireblog.com Gwefan Gymraeg am Ubuntu, y fersiwn poblogaidd o Linux. Fri, 26 Jun 2009 22:05:02 +0100 Ubuntu Cymraeg http://static.nireblog.com/imagenes/logo.png http://ubuntucymraeg.nireblog.com http://nireblog.com Google Chromium http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/06/26/google-chromium http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/06/26/google-chromium Mae fersiwn alffa o'r porwr cyflym Google Chromium ar gael erbyn hyn ar gyfer Ubuntu. Fel mae'r wefan yn nodi, Chromium yw'r prosiect côd agored sy'n sail i Google Chrome. Does dim fersiwn Cymraeg o'r porwr ar gael ar hyn o bryd:

chromium

Mae dwy ffordd o lwytho Chromium:

Fel mae'r dudalen groeso yn nodi fersiwn alffa yw hwn, ac er ei fod yn borwr cyflym ofnadwy mae chwilod a diffygion amlwg iddo ar hyn o bryd.

chromium22.png

Comments

]]>
Fri, 26 Jun 2009 21:22:19 +0100
Ubuntu 9.04 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/06/03/ubuntu-904 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/06/03/ubuntu-904 Ubuntu

Ubuntu 9.04 (gafodd ei ryddhau yn Ebrill 2009) yw'r degfed fersiwn o system weithredu Ubuntu ers cychwyn y prosiect nôl yn Hydref 2004. Mae'r fersiwn diweddaraf yn cynnig nifer o bethau newydd ac yn adeiladu ar sefydlogrwydd Ubuntu a'r egwyddor o fod yn hawdd i'w ddefnyddio.

Os wyt ti'n ddefnyddiwr newydd neu'n defnyddio Ubuntu 8.10 mae'n bendant yn werth sefydlu 9.04 neu uwchraddio i'r fersiwn hwn. Yr unig reswm dros beidio gwneud yw dy fod yn defnyddio 8.04 mewn busnes neu ar weinydd oherwydd y gefnogaeth tymor hir sydd ar gael iddo. Fel arall mae'n werth uwchraddio a manteisio ar yr holl bethau newydd sydd gan 9.04 i gynnig.

Mae modd sefydlu 9.04 mewn rhyw ugain munud naill ai ar ei ben ei hun neu fel bwt deuol gyda system arall.Os nag wyt ti'n siwr galli di lwytho'r cd byw i roi cynnig ar Ubuntu heb amharu o gwbwl ar dy system.

Dyma rai yn unig o nodweddion newydd Ubuntu 9.04. Am restr lawn cer i wefan Ubuntu:

Yn ogystal â holl nodweddion da ei ragflaenwyr, mae 9.04 yn

  • llwytho ac yn barod i ddefnyddio mewn 35 eiliad
  • cynnwys Gnome 2.26 a nifer o raglenni newydd fel Brasero i losgi CDs a DVDs
  • cynnwys cefnogaeth lawn ar gyfer mwy nag un sgrin
  • cynnwys Gimp 2.6 ac OOo 3.0
  • cynnwys cronfeydd meddalwedd wedi eu galluogi'n ddiofyn i hwyluso'r broses o lwytho meddalwedd nad yw'n gôd agored
  • hawdd llwytho Flash, MP3 a Java

Comments

]]>
Wed, 03 Jun 2009 19:29:15 +0100
Ychwanegu at y defnydd o Gedit http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/05/10/ychwanegu-at-y-defnydd-o-gedit http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/05/10/ychwanegu-at-y-defnydd-o-gedit Logo Gedit Un o'r rhaglenni mwyaf defnyddiol yn Ubuntu yw'r golygydd testun pwerus Gedit. Mae Gedit yn defnyddio system ategion ond dyw'r rhain ddim i gyd yn weithredol pan fyddi'n agor y rhaglen am y tro cyntaf.

I weld pa ategion sy'n weithredol agor Gedit a mynd i Golygu -> Ffafredigion -> Ategynnau. Os wyt ti am ddefnyddio ategyn sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd rho dic yn y blwch wrth ei enw.

I lwytho rhagor o ategion i Gedit (fel map symbolau) agor y Rheolwr Pecynnau Synaptig, a chwilia am a llwytho gedit-plugins. Wedi i'r broses orffen galli di alluogi ategion newydd drwy Golygu -> Ffafredigion -> Ategynnau. Yn y llun mae map symbolau sy'n rhan o'r pecyn ategion ychwanegol yn cael ei ddefnyddio.

Ategion Gedit

Comments

]]>
Sun, 10 May 2009 13:14:22 +0100
Miro ar gael yn y Gymraeg http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/05/09/miro-ar-gael-yn-y-gymraeg http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/05/09/miro-ar-gael-yn-y-gymraeg Miro Diolch i sylfaenydd a pherchennog Wetwork bydd y fersiwn nesaf o Miro (2.1) ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Os wnei di lwytho'r fersiwn cyfredol drwy'r Cronfeydd Meddalwedd bydd Miro yn cael ei ddiweddaru yn ddiofyn pan fydd 2.1 yn cael ei ryddhau, a bydd modd i ti ddewis Cymraeg bryd hynny.

Dyma ddisgrifiad cyfieithydd Miro o'r rhaglen:

Chwaraewr fideo HD rhad ac am ddim yw Miro. Gall chwarae bron pob ffeil fideo ac mae'n cynnig dros 6,000 sioe TV-gwe a phodlediadau fideo.

Mae gan Miro rhyngwyneb syml, gorjys wedi'i dylunio am fideo HD sgrin-llawn. Fel bo Miro'n lawrlwytho'r rhan fwyaf o fideos, gallwch gymryd y fideos gyda chi, hyd yn oed ar awyren. Yn syml, Miro yw'r ffordd orau o wylio'r holl fideo rydych yn caru.

I sefydlu Miro yn Ubuntu rho glec i System -> Gweinyddiaeth -> Software Sources a chlec i'r tab Third Party Software. Wedyn clicia Add ac yn y ffenest newydd sy'n agor teipia un o'r tri canlynol, pa un bynnag sy'n cyfateb i dy system di (gweler System -> About Ubuntu).

deb http://ftp.osuosl.org/pub/pculture.org/miro/linux/repositories/ubuntu jaunty/ (Ubuntu Jaunty 9.04)

deb http://ftp.osuosl.org/pub/pculture.org/miro/linux/repositories/ubuntu intrepid/ (Ubuntu Intrepid 8.10)

deb http://ftp.osuosl.org/pub/pculture.org/miro/linux/repositories/ubuntu hardy/ (Ubuntu Hardy 8.04)

Wedi i ti roi clec i Add Source a Cau byddi'n cael cyfle i ailwytho'r rhestr, a dylet wneud hynny gyda Reload.

Agor y Rheolwr Pecynnau Synaptig a chwilia am miro. Wedi i ti lwytho'r pecyn bydd ar gael dan Rhaglenni -> Sain a Fideo -> Miro Internet TV, er efallai bydd yn rhaid i ti ailgychwyn y system yn gyntaf.

Miro ar waith

Comments

]]>
Sat, 09 May 2009 10:55:21 +0100
Defnyddio botwm Windows (Super) yn Ubuntu http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/05/08/defnyddio-botwm-windows-super-yn-ubuntu http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/05/08/defnyddio-botwm-windows-super-yn-ubuntu Botwm Windows Wrth i ti addasu Ubuntu at dy ddibenion dy hun fe wnei di ganfod bod un botwm ar y bysellfwrdd sydd ddim yn cyflawni rhyw lawer, sef y botwm Windows (neu Super). Does dim rheswm pam na alli di ddefnyddio hwn fel pob botwm arall i greu llwybrau byr i lansio rhaglenni ayb.

Paratoi Ubuntu

Y cam cyntaf yw sicrhau bod Ubuntu yn caniatáu i ti wneud. Cer i System -> Hoffterau -> Bysellfwrdd a rho glec i'r tab Cynlluniau. Clicia Layout Options ar y gwaelod a rho glec i'r saeth fechan ger Alt/Win Key Behaviour. Rho glec i'r botwm ger Super is mapped to the Win-keys, cau'r ffenest a chau'r ffenest Hoffterau Bysellfwrdd.

Nawr mae modd i ti ddefnyddio'r botwm Windows i greu llwybrau byr.

Gosod llwybrau byr

Yn yr enghraifft hon rwy am osod Windows+t i agor Terfynell, Windows+f i agor Firefox, a Windows+g i agor Gedit.

Agor terfynell a theipio gconf-editor. Cer i apps -> metacity -> keybinding_commands, yn y ffenest ar y dde rho glec ddwbwl i command_1, ac yn y ffenest newydd sy'n agor teipia'r gorchymyn gnome-terminal, a rho glec i iawn. Gwna'r un peth gyda command_2 ond y tro hwn teipia firefox yn y ffenest sy'n agor, a'r un peth eto gyda command_3 gyda'r gorchymyn gedit.

Y cam nesaf yw gosod y gorchymyn byr. Rho glec i global_keybindings yn y ffenest chwith, a chwilia am run_command_1. Rho glec ddwbwl i hwn ac yn y blwch Gwerth yn y ffenest newydd teipia super_t a rho glec i iawn.

Bydd angen ailadrodd y broses ar gyfer run_command_2 i lansio Firefox gyda super_f a run_command_3 i lansio Gedit gyda super_g

Nawr mae gen ti ddau fotwm Windows defnyddiol ar waelod y bysellfwrdd sy'n lansio rhaglenni:

Windows+t yn lansio Terfynell
Windows+f yn lansio Firefox
Windows+g yn lansio Gedit

a gallu di fynd ati i greu lanswyr dy hun gyda'r run_commands sy'n weddill. Dyma rai gorchmynion eraill defnyddiol, ond efallai bydd rhaid eu haddasu ar gyfer dy fersiynau di o'r rhaglenni hyn. Gallu di ddewis unrhyw beth yn y blwch Llwybr Byr.

Rhaglen Gorchymyn (keybinding_command) Llwybr byr (global_Keybinding)
VLC vlc super_x
Gimp gimp-2.4 super_p
Synaptig gksu /usr/sbin/synaptic super_s
Testun OpenOffice openoffice.org3 -writer super_w

Comments

]]>
Fri, 08 May 2009 17:17:16 +0100
Sefydlu 465 o ffontiau côd agored http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/05/07/sefydlu-465-o-ffontiau-cod-agored http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/05/07/sefydlu-465-o-ffontiau-cod-agored Mae gwefan aenigmafonts yn cynnig ffordd hawdd i ti sefydlu 465 o ffontiau newydd côd agored ar dy system i'w defnyddio yn rhaglenni Ubuntu. I sefydlu'r rhain bydd angen ychwanegu storfa newydd i Gronfeydd Meddalwedd Ubuntu.

Rho glec i System -> Gweinyddiaeth -> Software Sources a chlec i'r tab Third Party Software. Wedyn clicia Add ac yn y ffenest newydd sy'n agor teipia

deb http://ppa.launchpad.net/corenominal/ubuntu hardy main Dylet roi dy fersiwn di o Ubuntu ar ddiwedd y llinell hon os nag wyt ti'n defnyddio Ubuntu Hardy: ee ubuntu gutsy main neu ubuntu intrepid main (gweler System -> About Ubuntu)

Wedi i ti roi clec i Add Source a Cau byddi'n cael cyfle i ailwytho'r rhestr, a dylet wneud hynny gyda Reload.

Agor y Rheolwr Pecynnau Synaptig a chwilia am ttf-aenigma. Wedi ti lwytho'r pecyn bydd 465 o ffontiau newydd ar gael i ti yn rhaglenni Ubuntu.

Comments

]]>
Thu, 07 May 2009 18:26:59 +0100
Ailenwi ffeiliau gyda Purrr http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/05/05/ailenwi-ffeiliau-gyda-purrr http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/05/05/ailenwi-ffeiliau-gyda-purrr Os wyt ti eisiau ailenwi nifer o ffeiliau yn hawdd mae rhaglen fechan ar Ubuntu o'r enw Purrr sy'n dy alluogi i wneud hyn. Dyweder dy fod wedi tynnu ffotograffau o'r eira, ac wedi llwytho rhain ar dy gyfrifiadur mae gen ti dros 50 o luniau gydag enwau fel img0145.jpg, gall Ubuntu ailenwi'r rhain yn rhywbeth mwy pwrpasol, a'u rhifo.

  • Defnyddia'r rheolwr pecynnau synaptig i chwilio am a llwytho Purrr.
  • Agor Purr drwy Rhaglenni -> Ategolion -> Purrr.
  • Agor y blygell ble mae'r ffeiliau rwyt ti am ailenwi, dewis y ffeiliau, a'u llusgo mewn i Purrr.
  • Dewis beth fydd enwau newydd y ffeiliau yn y rhan Name Template.
Purrr Purrr Purrr
Purrr Purrr Purrr
  • Mae [C] yn  ychwanegu rhif cynyddol dilynol i bob ffeil
  • Mae [E] yn cadw'r estyniad yn enw'r ffeil
  • Mae [N] yn cynnwys enw gwreiddiol y ffeil yn yr enw newydd
  • Mae , (coma) a rhif ar ôl [C] yn dechrau cyfri ar y rhif hwnnw ee gwyliau[C,100]

Felly i enwi cyfres o ffotograffau o wyliau eleni yn gwyliau2009-1.jpg, gwyliau2009-2.jpg dyma'r gorchymyn:

gwyliau2009-[C].[E] ac yna rhoi clec i Rename.

Rho glec i'r bawdluniau uchod i gael syniad o sut mae hwn yn gweithio.

Comments

]]>
Tue, 05 May 2009 19:09:21 +0100
Prosesu delweddau gyda ImageMagick http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/05/04/prosesu-delweddau-gyda-imagemagick http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/05/04/prosesu-delweddau-gyda-imagemagick ImageMagick Mae ImageMagick yn feddalwedd pwerus ar gyfer golygu ac addasu delweddau o bob math. Gall ddarllen, trosi a chreu delweddau mewn dros 100 o fformatau gwahanol, gan gynnwys y rhai mwyaf cyffredin a rhai llai arferol, a fformatau fel pdf.

Dyweder bod gen ti ddegau o luniau ar gamera digidol, a dy fod eisiau eu lleihau er mwyn medru eu rhoi ar y we. Gall ImageMagick wneud hyn mewn eiliadau gydag un gorchymyn.

1 Llwytho a sefydlu ImageMagick

Agor terfynell a theipio:
sudo apt-get install imagemagick gan gyflwyno dy gyfrinair pan fydd yn gofyn amdano.

2 Paratoi'r delweddau

Os wyt ti eisiau cadw'r gwreiddiol gwna gopi o'r lluniau rwyt ti am eu trosi a'u rhoi mewn plygell gyda'i gilydd ee plygell lluniaugwe yn dy blygell cartref.

3 Trosi'r delweddau

Defnyddia terfynell i symud i'r blygell honno: cd lluniaugwe ac yna teipia'r gorchymyn canlynol:
mogrify -resize 600 *.jpg

Dyma rai elfennau o'r gorchymyn mogrify uchod mae modd i ti eu haddasu .

  • Mae mogrify yn rhan o becyn meddalwedd ImageMagick.
  • Mae -resize 600 yn trosi bob delwedd i 600 picsel o led, ac yn cadw'r cymhareb maint. Wrth gwrs mae modd newid 600 i rywbeth arall.
  • Mae'r rhan *.jpg yn dweud wrth ImageMagick am drosi pob ffeil .jpg, ond fe allet ti enwi ffeiliau fan hyn yn lle ee llun1.jpg llun2.jpg os nag wyt ti am drosi'r cyfan.

Dim ond un enghraifft o'r miloedd o bethau gwahanol gall ImageMagick wneud yw hwn. Dilyn y dolenni isod am fwy o wybodaeth.

Defnyddio ImageMagick | Gwefan ImageMagick

Comments

]]>
Mon, 04 May 2009 11:45:33 +0100
Defnyddio Ubuntu i greu baner wedi'i hanimeiddio http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/05/03/defnyddio-ubuntu-i-greu-baner-wedii-hanimeiddio http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/05/03/defnyddio-ubuntu-i-greu-baner-wedii-hanimeiddio Mae nifer o raglenni graffeg defnyddiol yn Ubuntu a byddaf yn esbonio sut mae defnyddio dau o'r rhai mwyaf poblogaidd, sef GIMP ac ImageMagick, i greu baner wedi'i hanimeiddio. Mae'n broses dau gam.

Creu ffeiliau statig yn GIMP

Y nod cyntaf yw creu elfennau'r animeiddiad. Mae sawl ffordd o wneud hyn yn GIMP, ond yn yr achos hwn byddaf yn creu 3 ffeil ar wahân ac yna'n defnyddio ImageMagick i'w cyfuno. Crea blygell newydd yn dy blygell cartref a'i galw'n graffeg (Clec dde -> Creu Plygell). Byddwn yn cadw pob ffeil yn y blygell yma o hyn ymlaen.

Agor GIMP a cher ati i greu templed ar gyfer dy animeiddiad. Cadwa hwn fel meistr.xcf fel bod modd i ti olygu'r haenau eto. Wedyn teipia'r testun ar gyfer rhan gyntaf dy animeiddiad a cadwa'r ffeil fel sleid1.gif a'i chau. Agor y ffeil meistr.xcf wreiddiol, golygu'r testun, a chadw'r newidiadau fel sleid2.gif. Gallu di wneud hyn cynifer o weithiau ag sydd angen ar gyfer sleidiau gwahanol yr animeiddiad.

Unwaith y bydd pob elfen o'r animeiddiad yn barod mewn ffeiliau .gif (sleid1.gif, sleid2.gif ayb) gallu di gau GIMP.

Cyfuno'r ffeiliau gyda ImageMagick

Yn gyntaf bydd angen llwytho a sefydlu ImageMagick. Agor terfynell a theipio:
sudo apt-get install imagemagick gan gyflwyno dy gyfrinair pan fydd yn gofyn amdano.

Defnyddia terfynell i symud i'r blygell sy'n cynnwys y ffeiliau sydd angen cyfuno.
cd graffeg

I gyfuno'r ffeiliau yn un .gif wedi ei animeiddio teipia'r canlynol:
convert -delay 350 sleid1.gif sleid2.gif sleid3.gif -loop 0 animeiddio.gif

Dyma rai elfennau o'r gorchymyn convert uchod mae modd i ti eu haddasu .

  • Mae -delay 350 yn creu ffeil sydd a thri eiliad a hanner rhwng bob sleid; newid hwn at dy ddibenion di.
  • Mae -loop 0 yn nodi bod yr animeiddiad yn ddiderfyn.
  • Y rhan sleid1.gif sleid2.gif sleid3.gif yw'r ffeiliau fydd yn cael eu cyfuno.
  • Y rhan animeiddio.gif sy'n nodi beth fydd enw'r ffeil newydd. Mae'n bwysig defnyddio .gif ar ddiwedd enw'r ffeil.

Agor y blygell graffeg wnes di greu ar y dechrau a bydd ffeil newydd ynddi o'r enw animeiddio.gif. I weld sut mae wedi gweithio rho glec dde i'r ffeil -> Agor Gyda -> Agor Gyda "Firefox".

Mae'n werth arbrofi gyda'r gorchmynion hyn. Am fwy o fanylion am ImageMagick teipia man imagemagick mewn terfynell. Am fwy o fanylion am y gorchymyn convert teipia man convert.

Comments

]]>
Sun, 03 May 2009 12:01:08 +0100
Sganio am feirws gyda BitDefender http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/04/29/sganio-am-feirws-gyda-bitdefender http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/04/29/sganio-am-feirws-gyda-bitdefender BitDefender Er ei bod yn anodd iawn i ti gael feirws ar dy gyfrifiadur Linux, dyw hyn ddim yn meddwl nad oes modd iddo gario mwydod a rhaglenni niweidiol eraill fel malware a spyware allai gael eu hanfon yn anfwriadol i gyfrifiaduron Windows.

Mae BitDefender ar Gyfer Unices yn sganiwr gwrth-feirws a gwrth-spyware hyblyg a defnyddiol ar gyfer systemau Linux a FreeBSD. Mae'n medru sganio rhaniadau Windows ar gyfrifiaduron hefyd.

Mae BitDefender hefyd yn rhad ac am ddim at ddefnydd personol; nid yw serch hynny'n feddalwedd côd agored.

Cam 1: Llwytho BitDefender a chael trwydded

Cer ati i greu plygell newydd yn dy blygell cartref a'i galw'n gwrthfeirws (Clec dde -> Creu Plygell). Wedyn dilyn y cyfarwyddiadau sydd yn y cyfraniad hwn ar Fforwm Ubuntu i lwytho'r meddalwedd a'i gadw yn dy ffolder newydd. Ailenwa'r ffeil rwyt ti newydd ei llwytho yn bitdefender.run (Clec dde -> Ailenwi), a mynd i nôl trwydded o wefan BitDefender.

Cam 2:  sefydlu BitDefender

Agor terfynell a chopio a gludo'r cyfarwyddiadau canlynol:

cd gwrthfeirws - i symud i'r cyfeiriadur cywir.

sudo sh bitdefender.run - i sefydlu'r meddalwedd. Dilyn y cyfarwyddiadau ar sgrin a derbyn y drwydded.

Cam 3: defnyddio BitDefender

Bydd eicon newydd yn ymddangos dan Rhaglenni -> Offer System o'r enw BitDefender Scanner. Cer ati i ddiweddaru'r meddalwedd yn syth, ac yna i sganio plygellau a ffeiliau. Mae'n werth diweddaru dy drwydded gyda'r côd anfonwyd atat ti wrth gofrestru (Set new key).

BitDefender

Comments

]]>
Wed, 29 Apr 2009 14:35:00 +0100
Pa feddalwedd sydd ar dy beiriant Ubuntu? http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/04/21/pa-feddalwedd-sydd-ar-dy-beiriant-ubuntu http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/04/21/pa-feddalwedd-sydd-ar-dy-beiriant-ubuntu I ganfod pa feddalwedd sydd wedi ei sefydlu ar dy beiriant agor terfynell a theipia:

dpkg --get-selections > meddalwedd

Bydd ffeil o'r enw meddalwedd yn ymddangos yn dy gyfeiriadur cartref sy'n rhestru'r pecynnau sydd wedi eu sefydlu ar dy system.

Comments

]]>
Tue, 21 Apr 2009 19:47:50 +0100
CheckGmail ar Ubuntu http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/04/05/checkgmail-ar-ubuntu http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/04/05/checkgmail-ar-ubuntu Mae CheckGmail yn raglen fach ddefnyddiol sy'n dy rhybuddio pan fydd ebost newydd yn cyrraedd Gmail heb i ti orfod bod wedi mewngofnodi i Gmail na'n pori'r we.

CheckGmail

O ddal y llygoden dros yr eicon bydd yn rhoi crynodeb bras i ti o'r ebost, ac o glicio'r eicon byddi'n mynd i mewnflwch dy gyfri ebost.

CheckGmail

Defnyddia'r Rheolwr Pecynnau Synaptic i lwytho CheckGmail -  bydd gofyn bod Cronfa Meddalwedd Medibuntu wedi ei alluogi gen ti. Bydd CheckGmail yn ymddangos wedyn dan Rhaglenni -> Rhyngrwyd a dylet ei ychwanegu at y rhaglenni sy'n agor wrth gychwyn Ubuntu gyda'r gorchymyn checkgmail.

Bydd CheckGmail ar gael yn y Gymraeg cyn bo hir - mae cyfieithiad wedi cael ei gyflwyno i awdur y rhaglen. I ddefnyddio'r Gymraeg nawr agor terfynell a theipio:

gedit ~/.checkgmail/lang.xml

Yn y ffeil sy'n agor, copia a gludo'r cod sydd yn y ffeil hon, cyn cadw a chau'r ffeil. Bydd modd i ti ddewis y Gymraeg drwy roi clec dde i'r eicon a newid iaith yn y dewisiadau.

CheckGmail

Comments

]]>
Sun, 05 Apr 2009 19:17:33 +0100
Linux Mint 6 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/02/14/linux-mint-6 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2009/02/14/linux-mint-6 Un o'r dewisiadau mwyaf poblogaidd o Linux erbyn hyn yn ôl gwefan Distrowatch yw Linux Mint. Cafodd ei lansio i ddechrau fel amrywiaeth ar Ubuntu oedd yn cynnwys codecs fideo'n ddiofyn, ond erbyn hyn mae wedi datblygu'n system weithredu ar wahân, sy'n defnyddio'r pethau gorau o Ubuntu ac yn ychwanegu atyn nhw.

Linux Mint

Mae datblygwyr Mint yn hawlio eu bod yn cynnig ychydig o sglein i Ubuntu tra ar yr un pryd yn manteisio ar enw da Ubuntu am fod yn ddibynadwy, yn hawdd ei ddefnyddio ac yn gweithio'n syth o'r bocs.

Mae Linux Mint wedi bod yn llwyddiannus iawn oherwydd:

  • Fel Ubuntu mae wedi ei adeiladu ar seiliau cadarn Debian.
  • Mae'n defnyddio Cronfeydd Meddalwedd Ubuntu ac yn elwa ar holl waith caled datblygwyr Ubuntu.
  • Mae'n rhoi pwyslais anferth ar gael pethau i weithio'n syth o'r bocs, a llai o bwyslais nag Ubuntu ar natur côd agored y gyrrwyr.
  • Mae'n canolbwyntio ar sicrhau bod pethau elfennol fel diwifr, gyrrwyr, cefnogaeth codecs amlgyfrwng, dosraniad sgrin ayb. yn gweithio heb orfod gwneud dim i'r system.

Lluniau o Mint ar waith ar liniadur. Rho glec i'r bawdlun am lun mwy:

Dewislen Mint Llwytho Meddalwedd Canolfan Reoli
Dewislen Mint Llwytho Meddalwedd Canolfan Reoli

Comments

]]>
Sat, 14 Feb 2009 14:14:08 +0100
OpenOffice.org 3 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/11/14/openofficeorg-3 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/11/14/openofficeorg-3 Er nad yw yng nghronfeydd meddalwedd Ubuntu eto, nac yn debygol o fod am dipyn, mae modd i ti lwytho OpenOffice.org 3 Cymraeg ar dy gyfrifiadur Ubuntu, ac mae'n bendant yn werth gwneud. Yn ogystal â medru agor a thrin dogfennau mewn llu o fformatau, gan gynnwys fformat docx newydd Microsoft, mae'r fersiwn hwn yn gyflym a deniadol iawn, ac wrth gwrs mae'n rhad ac am ddim. Diolch i Rhoslyn Prys ac eraill mae hwn, fel fersiynau blaenorol, ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Open Office 3

I lwytho OpenOffice 3 dilyn y cyfarwyddiadau hyn. Byddaf yn tynnu fersiwn blaenorol o OpenOffice (2.4), ond does dim rhaid i ti wneud hynny.

1 Tynnu hen fersiwn o Open Office

Agor y Rheolwr Pecynnau Synaptig, teipia OpenOffice yn y blwch chwilio, marcia pob pecyn sy'n cynnwys y teitl OpenOffice gyda chlec dde -> Mark for removal, a chlicia Apply.

2 Llwytho OpenOffice 3 Cymraeg

Llwytha'r pecyn .deb Cymraeg o fan hyn a'i gadw ar y bwrdd gwaith.

3 Echdynnu a sefydlu

Echdynna'r pecyn gyda chlec dde -> Echdynnu Yma. Agor terfynell a symud i'r ffolder DEBS drwy deipio
cd /home/dy-enw-defnyddiwr/Desktop/DEBS

a phwyso Enter, yna teipia
sudo dpkg -i *.deb

Bydd hyn yn sefydlu OpenOffice 3.

4 Dewislenni

Os wyt ti wedi tynnu yr hen OpenOffice o dy system gallu di greu lanswyr newydd i Open Office drwy ddefnyddio'r terfynell a theipio
cd desktop-integration/
o dy leoliad diwethaf (DEBS), ac yna
sudo dpkg -i openoffice.org3.0-debian-menus_3.0-9354_all.deb
Bydd lanswyr newydd i OpenOffice 3 yn ymddangos o dan Rhaglenni-> Swyddfa.

Comments

]]>
Fri, 14 Nov 2008 15:03:03 +0100
Porwr Opera Cymraeg http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/10/25/porwr-opera-cymraeg http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/10/25/porwr-opera-cymraeg Diolch i griw Meddal mae'r fersiwn ddiweddaraf o'r porwr gwe Opera ar gael yn y Gymraeg. Mae'r broses o lwytho hwn ar Ubuntu yn hawdd:

Opera Cymraeg

Llwytha'r pecyn Linux o wefan Opera a'i gadw yn rhywle cyfleus. Mae'n dod fel pecyn .deb a bydd angen i ti roi clic dwbwl i'r pecyn a dilyn y cyfarwyddiadau i'w sefydlu.

Llwytha'r pecyn iaith Cymraeg o wefan Meddal a'i gadw yn rhywle cyfleus. Wedyn rho glec dde i'r pecyn a'i echdynnu.

Copia'r ffeil Cymraeg (welsh.lng) i mewn i ffolder /usr/share/opera/locale. Os wyt ti'n yn cael problem caniatad wrth wneud hyn (fel y gwnes i), copia'r ffeil i'r cyfeiriadur Cartref / Home. Agor terfynell a theipio sudo cp welsh.lng /usr/share/opera/locale a chyflwyno cyfrinair pan fydd yn gofyn.

Wedyn agor Opera a dilyn y cyfarwyddiadau o wefan Opera.

Mae Opera yn borwr cyflym iawn, ac mae ganddo nifer o nodweddion blaengar sydd nawr yn cael eu copio gan eraill, fel y syniad o ddeialu cyflym:

Deialu Cyflym yn Opera

Comments

]]>
Sat, 25 Oct 2008 11:29:49 +0100
Firefox 3 Cymraeg ar Ubuntu 8.10 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/10/20/firefox-3-cymraeg-ar-ubuntu-810 http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/10/20/firefox-3-cymraeg-ar-ubuntu-810 Firefox 3 Cymraeg

Yn dilyn rhai problemau gyda'r pecyn iaith gwreiddiol mae pecyn iaith gan Meddal nawr yn gweithio'n iawn ar gyfer Firefox 3. Cyfarwyddiadau ar sut i'w lwytho fan hyn. Diolch yn fawr i'r rhai sydd wedi bod yn gweithio ar hwn.

Comments

]]>
Mon, 20 Oct 2008 13:19:22 +0100
Rhedeg system rithiol gyda Virtualbox http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/09/28/rhedeg-system-rithiol-gyda-virtualbox http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/09/28/rhedeg-system-rithiol-gyda-virtualbox Os wyt ti eisiau arbrofi gyda systemau gweithredu gwahanol heb orfod mynd i'r drafferth o rannu gyriant, mae Virtualbox yn cynnig ffordd hawdd iawn o wneud hyn. Dyma lun o Mandriva One 2008 yn rhedeg yn virtualbox-ose ar system Ubuntu.

Virtualbox

Mae modd i ti lwytho amryw o systemau gwahanol drwy Virtualbox, gan gynnwys y prif fersiynau o Linux a Windows XP. Mae'n bwysig nodi bod yr un materion diogelwch yn codi wrth redeg system rithiol a phetaet ti'n llwytho'r system ar dy beiriant.

Mae dau fersiwn o Virtualbox, sef un côd agored ac un perchenogol, gyda'r ddau yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cynnal gan Sun Microsystems.

Os wyt ti ar Ubuntu mae modd i ti lwytho'r fersiwn côd agored drwy'r Rheolwr Pecynnau Synaptig drwy chwilio am becyn o'r enw virtualbox-ose.

Dyma ddolenni i wefannau gyda chyfarwyddiadau ar sut i lwytho Virtualbox, a llwytho systemau gweithredu eraill wedyn.

Wiki Cymuned Ubuntu | Blog defnyddiol | Fforwm Ubuntu

Comments

]]>
Sun, 28 Sep 2008 16:24:16 +0100
Rhaglenni Wrth Gychwyn http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/09/07/rhaglenni-wrth-gychwyn http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/09/07/rhaglenni-wrth-gychwyn Os wyt ti eisiau rhaglen i redeg pan fydd Ubuntu yn cychwyn cer i System-> Hoffterau-> Sesiynau a rho glec i'r tab Rhaglenni Wrth Gychwyn a chlec i'r blwch Ychwanegu.

Yn y blwch sy'n agor llenwa'r blychau a rho glec i Iawn.

Dyma enghraifft o sut fyddet ti'n gosod Firefox i agor yn ddiofyn wrth gychwyn Ubuntu.

Name: Beth bynnag wyt ti eisiau galw'r rhaglen (ee. Firefox)
Command: firefox
Comment: Beth bynnag wyt ti eisiau rhoi fan hyn (ee. Porwr Gwe).

Un tric bach. Os nag wyt ti'n siwr beth i roi yn y blwch Command llusga lansiwr ar y bwrdd gwaith, rho glec dde iddo a chlec i Priodweddau, ac o dan y tab Lansiwr bydd y wybodaeth yn y blwch Gorchymyn.

I atal rhaglen rhag dechrau gyda'r system cer i  System-> Hoffterau-> Sesiynau a chael gwared ar y tic wrth enw'r rhaglen.

Comments

]]>
Sun, 07 Sep 2008 16:27:12 +0100
Bar lansio Cairo-dock http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/09/06/bar-lansio-cairo-dock http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/09/06/bar-lansio-cairo-dock

Os wyt ti'n gyfarwydd â doc Mac OSX sy'n cynnwys lanswyr wedi eu hanimeiddio efallai y bydd diddordeb gen ti yn Cairo-dock. Mae Cairo-dock yn cynnig yr un math o brofiadau i ddefnyddiwr Ubuntu, ac wrth gwrs, mae'n rhad ac am ddim ac yn hawdd iawn i'w sefydlu.

Mae'r cyfarwyddiadau hyn ar gyfer sefydlu Cairo-dock drwy'r Cronfeydd Meddalwedd ar system Ubuntu 8.04 (Hardy). Mae gwybodaeth am ffyrdd eraill o'i sefydlu ar systemau gwahanol ar wefan Cymuned Ubuntu.

1 - Cronfa Meddalwedd

Mae gan Cairo-dock gronfa meddalwedd ei hun, felly ychwanega hwn at dy system drwy agor terfynell  a theipio:
$ sudo gedit /etc/apt/sources.list

Ychwanega'r côd canlynol ar waelod y ffeil sy'n agor, ei cadw a'i cau:
deb http://repository.cairo-dock.org/ubuntu hardy cairo-dock

2 - Allwedd GPG

I ychwanegu'r allwedd gpg agor terfynell a gludo'r canlynol cyn pwyso enter:
$ wget -q http://repository.cairo-dock.org/ubuntu/cairo-dock.gpg -O- | sudo apt-key add -

3 Llwytho'r meddalwedd

Agor terfynell a theipia'r canlynol, un ar y tro:
$ sudo apt-get update
$ sudo apt-get install cairo-dock cairo-dock-plugins

4 Cychwyn Cairo-dock

Mae modd lansio Cairo-dock o Rhaglenni-> Offer System-> Cairo-Dock neu drwy'r terfynell gyda'r gorchymyn
$ cairo-dock

I ychwanegu Cairo-dock at y rhaglenni sy'n cychwyn gyda'r system dilyn y cyfarwyddiadau hyn gan roi cairo-dock yn y blwch Command.

5 Cymreigio ac addasu Cairo-dock

Mae modd i ti addasu Cairo-dock mewn cannoedd o ffyrdd gwahanol.

  • Llusga lansiwr i'r doc i'w ychwanegu at Cairo-dock.
  • I newid enw lansiwr yn Cairo-dock rho glec dde iddo a chlec i Modify this launcher. Rho deitl Cymraeg y rhaglen yn Launcher's name.
  • Rho glec dde i'r doc ac yna Cairo-Dock -> Configure neu Cairo-Dock-> Themes i gael addasu'r thema, ac ymddygiad popeth arall.

6 Gwybodaeth bellach

Gwefan Cairo-dock (Ffrangeg)
Wiki Saesneg
Cymuned Ubuntu

Cairo-dock ar fy system i!

Cairo-dock

Comments

]]>
Sat, 06 Sep 2008 11:39:28 +0100
Rhannu argraffydd dros rwydwaith ddiwifr http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/09/02/rhannu-argraffydd-dros-rwydwaith-ddiwifr http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/2008/09/02/rhannu-argraffydd-dros-rwydwaith-ddiwifr Mewn sefyllfa pan fod gen ti un cyfrifiadur wedi'i gysylltu ag argraffydd, ac un neu fwy o gyfrifiaduron sy'n cysylltu â rhwydwaith drwy ddefnyddio llwybrydd diwifr, gall fod yn ddefnyddiol weithiau i rannu'r argraffydd. Mae hyn yn dy atal rhag gorfod symud ffeiliau i'r prif gyfrifiadur i'w hargraffu. Dyma sut mae gwneud hyn yn Ubuntu.

Yn yr enghraifft hon byddaf yn galw'r cyfrifiadur sydd wedi cysylltu i'r argraffydd yn "prif gyfrifiadur", a'r un rwyt ti eisiau cysylltu ag argraffydd yn ddiwifr yn "gliniadur".

Ar y gliniadur cer i  System-> Gweinyddiaeth -> Yn argraffu a rho glec i'r blwch Show printers shared by other systems:

Ar y prif gyfrifiadur cer i  System-> Gweinyddiaeth -> Yn argraffu a rho glec i'r blwch Share published printers connected to this system:

Rho gynnig ar argraffu o'r gliniadur. Dylai weithio'n ddidrafferth.

Os wyt ti'n cael problem cer eto ar y gliniadur i System-> Gweinyddiaeth -> Yn argraffu a rho glec i'r blwch Goto Server. Yn y blwch sy'n ymddangos rho gyfeiriad IP y cyfrifiadur rwyt ti eisiau cysylltu ag ef gan ychwanegu porth 631 fel yn y llun isod. Rho enw defnyddiwr y cyfrifiadur rwyt ti eisiau cysylltu ag ef a dy gyfrinair pan fydd yn gofyn amdano. Mae manylion pellach am gyfeiriadau IP yng Ngham 2 post blaenorol ar Open SSH.

Os wnes di lwytho Mur Cadarn fel Firestarter efallai y bydd yn ceisio dy atal rhag cysylltu, a bydd angen ychwanegu rheol. Agor rhyngwyneb graffegol Firestarter, ac o dan Events mi weli di'r gliniadur yn cael ei atal. Rho glec dde i'r broses a dewis ei chaniatáu.

Dylet fedru agraffu ffeiliau wedyn dros rwydwaith diwifr.

Comments

]]>
Tue, 02 Sep 2008 20:15:43 +0100